Bachgen, 15, wedi marw wrth geisio achub ffrind - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod bachgen 15 oed wedi marw ar ôl disgyn i chwarel wrth geisio achub ei ffrind.
Bu farw Myron Davies ar ôl dioddef "sawl anaf i'w ben a'i frest" yn chwarel Abersychan ar gyrion Pont-y-pŵl ar 6 Gorffennaf 2022.
Clywodd Llys Crwner Y Drenewydd fod Myron wedi mynd i'r chwarel gyda merch 14 oed a syrthiodd gyntaf, a’i fod o wedi "ymateb yn reddfol wrth geisio ei hachub".
Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, fod y digwyddiad yn "ddamwain drasig".
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
Ar 6 Gorffennaf 2022, dywedodd Myron wrth ei fam nad oedd o angen iddi ei nôl o'r ysgol gan ei fod yn mynd i gwrdd â ffrind.
Clywodd y llys "nad oedd unrhyw bryderon" am Myron yn yr ysgol, a'i fod wedi rhoi ei liniadur i gadw ar ddiwedd y dydd fel yr arfer.
Cafodd datganiad gan Lloyd Whitelock ei ddarllen i'r llys - rhywun sy'n gallu gweld y chwarel o ardd gefn ei gartref.
Dywedodd ei fod yn yfed yn yr ardd am tua 18:15 pan wnaeth rhywbeth "dynnu fy sylw" yn y chwarel.
Eglurodd ei fod wedi gweld "person yn dod o 'nunlle, ac yn cerdded yn agos at ochr y graig".
Ychwanegodd ei fod yn meddwl mai rhywun tal oedd o i ddechrau, cyn gweld fod yna ddau berson - un "tua dwy droedfedd yn is na'r llall".
Dywedodd Mr Whitelock ei fod "mewn sioc ofnadwy" pan welodd un o'r ddau yn disgyn "yn syth i lawr", gan achosi'r llall i "ysgwyd" cyn iddyn nhw hefyd ddisgyn o'r graig.
"Dwi'n bendant nad oeddynt wedi neidio," meddai.
Mynd yno 'i fwynhau'r olygfa'
Cafodd y ferch 14 oed a oedd gyda Myron y diwrnod hwnnw ei chyfweld gan yr heddlu, ond dywedodd "nad oedd hi'n gallu cofio llawer am y digwyddiad".
Clywodd y llys rannau o'r cyfweliad pan soniodd hi am "deimlo'n hapus" ar y diwrnod, a bod Myron hefyd yn "hapus" ac yn "ymddwyn fel yr arfer".
Eglurodd bod y ddau wedi mynd i'r chwarel i fwynhau'r olygfa, gan ychwanegu eu bod wedi mynd yno gyda'i gilydd o'r blaen.
Er nad oedd hi'n cofio sut wnaethon nhw ddisgyn, meddai, mae hi wedi profi ôl-fflachiau wedi'r digwyddiad.
Fe wnaeth y ferch ddioddef "anafiadau difrifol" ar ôl disgyn, ac fe gafodd ei thrin yn yr ysbyty.
Clywodd y llys hefyd gan Leigh Holborn, cyn-Dditectif Brif Arolygydd gyda Heddlu Gwent, wnaeth arwain yr ymchwiliad ond sydd bellach wedi ymddeol.
Dywedodd fod "sïon erchyll" yn cael eu rhannu oedd yn awgrymu bod rhywun arall yn rhan o'r digwyddiad, ond nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod hynny yn wir.
Roedd yn ymddangos, meddai, fel bod y ferch wedi disgyn gyntaf a bod Myron wedi ymateb.
"Mae Myron wedi ceisio ei helpu, sy'n gwbl naturiol... Mae o wedi ceisio gwneud popeth o fewn ei allu i'w stopio hi rhag disgyn."
'Rhywle peryglus i fod'
Ychwanegodd Mr Holborn nad oedd yna unrhyw dystiolaeth chwaith i awgrymu bod y ddau wedi cytuno i roi terfyn ar eu bywydau, a'i fod yn credu nad oedd negeseuon lle mae Myron yn sôn am frifo ei hun yn y chwarel yn rhai y dylid eu cymryd o ddifrif.
Clywodd y llys bod ffens newydd wedi ei chodi ar y graig ers y digwyddiad, ond bod yna rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â phwy oedd yn berchen ar y safle.
Daeth y crwner Caroline Saunders i'r casgliad mai "damwain" oedd marwolaeth Myron.
"Fe wnaeth y ferch a oedd o flaen Myron lithro, ac fe wnaeth o geisio ei hachub. Mae ymyl chwarel fel hyn yn rhywle peryglus i fod," meddai.
Cafodd Myron ei ddisgrifio fel bachgen poblogaidd "yr oedd pawb yn ei garu".