Galw am foicot o iPads oni bai bod Apple yn 'parchu'r Gymraeg'

Gruffudd Prys Ffynhonnell y llun, Gruffudd Prys
Disgrifiad o’r llun,

Gruffudd Prys ydy pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae angen sicrhau bod cwmnïau mawr rhyngwladol yn "parchu'r safonau iaith sydd gennym ni yma yng Nghymru" meddai pennaeth yr uned technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Gruffudd Prys hefyd nad yw cwmni Apple "i weld yn ymateb o gwbl, bron a bod, ar hyn o bryd i'r angen i gynnwys y Gymraeg".

Wrth siarad â phwyllgor diwylliant y Senedd, dywedodd "bod angen i ni ddefnyddio ein grym pwrcasu ni i roi mwy o bwysau ar gwmnïau fel Apple, a dweud y gwnawn ni ddim prynu miloedd o iPads i ysgolion Cymru oni bai eu bod nhw'n gallu cefnogi'r Gymraeg yn well".

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb Apple.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "trafod ac yn gweithio gyda llawer o gwmnïau a sefydliadau".

Angen 'creu platfformau Cymraeg'

Clywodd y pwyllgor hefyd yr wythnos ddiwethaf gan dechnolegydd Cymraeg sy'n credu bod angen "creu platfformau Cymraeg" er mwyn cynyddu'r defnydd o'r iaith.

Mae Carl Morris yn gweithio'n llawrydd ar amrywiaeth o brosiectau ym maes technoleg Cymraeg gyda sefydliadau gwahanol.

Meddai: "Dydyn ni ddim yn gallu gwadu bod Instagram a TikTok yn boblogaidd, ond mae yna le i blatfformau penodol rydyn ni'n eu creu yng Nghymru, efallai ar y cyd gydag ieithoedd eraill.

"Rydyn ni'n gallu trio cnocio ar ddrws Instagram a TikTok a thrio siarad am yr algorithm - am flynyddoedd i ddod - ond does yna ddim siawns fawr ein bod ni'n mynd i greu rhywbeth mor fawr ag Instagram yng Nghymru ar hyn o bryd o ran y ffactorau presennol.

"Dwi ddim yn dweud bod eisiau trio ail-greu y ffordd y maen nhw'n gweithredu, na maint y cwmnïau na dim byd fel yna, ond i feddwl ychydig yn wahanol."

Carl Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carl Morris bod "lle i blatfformau penodol rydyn ni'n eu creu yng Nghymru"

Awgrymodd Mr Morris bod lle i blatfform "cwbl Gymraeg sydd yn hamddenol, neu nifer o blatfformau sydd yn creu'r gofod yna".

Ychwanegodd: "Mae'r syniad yna o ofod neu drochi yn y Gymraeg yn thema eithaf cyson, dwi'n meddwl, o'r Mudiad Meithrin, y cylchoedd meithrin, i ofodau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, digwyddiadau.

"Mae'r ddelwedd yna yr un mor wir ar y we o ran trio creu mwy o ofodau lle mae'r Gymraeg yn hegemonaidd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Fel rhan o'n gwaith ar dechnoleg a'r Gymraeg ry'n ni'n trafod ac yn gweithio gyda llawer o gwmnïau a sefydliadau.

"Er enghraifft gyda Microsoft i greu cyfieithu ar y pryd yn Teams a nifer o bethau eraill, a Google i alluogi pobl ddefnyddio Chrome OS yn y Gymraeg.

"Ry'n ni hefyd wedi cyflwyno cyngor i bobl sy'n caffael meddalwedd a thechnoleg Cymraeg ac wedi'i gynnwys yn ein systemau pwrcasu ni."

'Sefyllfa reit dda'

O ran "tirlun" y Gymraeg, dywedodd Gruffudd Prys "ein bod ni mewn sefyllfa reit dda o safbwynt maint ein poblogaeth ni, a'r nifer o siaradwyr sydd, a'r ffaith bod y Gymraeg i mewn yn y chwyldro AI yma o'r cychwyn cyntaf.

"Os edrychwn ni yn ôl i'r gorffennol, pan nad oedd hyd yn oed 'ŵ' ac 'ŷ' yn gweithio yn ein pecynnau meddalwedd ni, mae'n braf eu bod yn y modelau iaith mawr yma o'r cychwyn cyntaf."

Ychwanegodd fod y dechnoleg adnabod lleferydd Cymraeg "wedi croesi pont a'i fod o safon wych".

"Ond mae'n rhaid inni dreulio mwy o amser yn gwella hynny ac yn sicrhau bod yr holl dafodieithoedd yng Nghymru yn gallu cael eu hadnabod yn gywir, a'n bod ni, nid yn gor-safoni, ond bod gennym ni ryw gysondeb o ran sut i sillafu geiriau fel 'moyn' ac 'actually' hefyd - y geiriau Saesneg 'dyn ni'n defnyddio yn Gymraeg.

"Ac a ydyn ni eisiau 'ch' ar ddechrau 'checkio', neu a ydyn ni'n gallu dysgu i dderbyn 'tsi-', sydd ddim yn llythyren yn yr wyddor Gymraeg?"