Canfod achos o ffliw adar yn Sir Ddinbych

Mae ieir yn un math o adar sy'n cael eu heffeithio gan ffliw adar
- Cyhoeddwyd
Mae achos o ffliw adar pathogenig iawn [H5N1] wedi cael ei ganfod ger Cynwyd yn Sir Ddinbych.
Cafodd y ffliw ei gadarnhau ddydd Sadwrn, gan Brif Filfeddyg Llywodraeth Cymru.
Mae ffliw adar yn gyffredinol yn effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar, gan gynnwys ieir, chwid, ffesantod ac eraill.
Mae parthau gwarchod wedi'u gosod o amgylch yr achos, er mwyn ceisio atal lledaeniad yno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.