Rhagweld 'llifogydd sylweddol' yn sgil rhybudd oren Storm Claudia

Mae disgwyl glaw trwm ar draws rhannau helaeth o Gymru ddiwedd yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i rannau o Gymru gael glaw trwm a all arwain at lifogydd wrth i Storm Claudia gyrraedd.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren i rannau o'r de-ddwyrain a chanolbarth Cymru a fydd mewn grym ddydd Gwener tan 23:59.
Mae 'na rybudd melyn am law a gwyntoedd cryfion hefyd mewn grym i rannau helaeth o Gymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai'r storm arwain at golli pŵer, dŵr a signal ffôn.
Cyfri'r gost wedi difrod 'llifogydd ofnadwy'
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Glaw trwm yn achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn nodi y gall nifer o ffyrdd gael eu heffeithio oherwydd y glaw ac fe allai'r tywydd garw arwain at amodau gyrru gwael.
Maen nhw hefyd yn rhagweld bod llifogydd uchel yn bosib, a all arwain at berygl i fywyd.
Fe allai'r amodau waethygu gyda gwyntoedd cryfion, yn ogystal â mellt a tharanau yn hwyrach ddydd Gwener.
Dyma'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd oren ddydd Gwener:
Blaenau Gwent
Caerffili
Caerdydd
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Casnewydd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen

Daw'r rhybuddion diweddaraf llai na phythefnos wedi i lifogydd daro'r de-orllewin
Yn ogystal â'r rhybudd oren, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i dde, gogledd a chanolbarth Cymru o 06:00 fore Gwener tan 06:00 fore Sadwrn.
Mae disgwyl rhwng 30-50mm o law i ddisgyn ar hyd mwyafrif yr ardal sydd wedi ei chynnwys o fewn y rhybudd, tra bod hyd at 150mm yn bosib ar dir uwch yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae 'na hefyd rybudd melyn am wynt ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys a Cheredigion rhwng 12:00 a 23:59 ddydd Gwener.
Mae disgwyl gwyntoedd rhwng 50 a 60 mya, a hyd at 70 mya wrth yr arfordir ac ar dir uwch.
Disgwyl 'llifogydd sylweddol'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi, gan ddweud eu bod yn rhagweld "llifogydd sylweddol mewn rhannau o dde-ddwyrain a chanolbarth Cymru".
"Gyda'r afonydd eisoes yn llawn a'r tir yn wlyb, disgwyliwn weld nifer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi," meddai llefarydd.
"Disgwyliwn hefyd i'r glaw trwm achosi problemau dŵr wyneb.
"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wneud paratoadau ar gyfer llifogydd posibl nawr.
"Rydym hefyd am atgoffa pobl i gadw draw o lannau afonydd ac i beidio â gyrru na cherdded drwy ddŵr llifogydd."