Caerdydd: Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 45 oed

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Victoria Thomas wedi ei disgrifio fel "mam a chyfaill annwyl"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Victoria Thomas, oedd yn 45 oed, ei ddarganfod mewn tŷ yn y brifddinas yn gynnar fore Mawrth.

Ymddangosodd Alcwyn Thomas, 44, o flaen ynadon Caerdydd ac fe gadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 27 Awst.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Caerffili yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yn yr oriau mân fore Mawrth

Dywed teulu Victoria Thomas eu bod "wedi llorio" yn sgil marwolaeth "merch, mam, chwaer, modryb, nith a chyfaill annwyl".

"Mae ein teulu wedi chwalu a byddwn yn ei cholli am byth."

Maen nhw hefyd wedi apelio am breifatrwydd "i alaru ar yr adeg anodd yma".

Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Powell o Heddlu'r De bod eu meddyliau gyda'r teulu, sy'n parhau i gael cefnogaeth a'r wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion arbenigol.

Mynegodd ddiolch hefyd i'r gymuned leol wrth i ymholiadau'r heddlu barhau i'r achos.