Gwrthod cais i dawelu cloc Machynlleth dros nos

Fe gwynodd rheolwyr Gwesty'r Wynnstay Arms gan fod sŵn y cloc dros nos yn eu gorfodi i symud gwesteion i ystafelloedd eraill
- Cyhoeddwyd
Mae cais gan westy ym Machynlleth i dawelu cloc y dref dros nos wedi ei wrthod gan gyngor y dref.
Ysgrifennodd rheolwr Gwesty'r Wynnstay Arms, Huw Morgan, at y cyngor yn dilyn cwynion rheolaidd am y sŵn a ddaw o'r cloc, sy'n canu pob 15 munud ddydd a nos.
Ond yn ôl Cyngor Tref Machynlleth, mae sŵn y cloc yn rhan o "gymeriad y dref".
Doedd y cyngor, a wariodd £55,000 ar waith cynnal a chadw diweddar i'r cloc, ddim am wneud sylw pellach.
Ar ôl gorfod symud gwesteion i ystafelloedd eraill, mae Huw Morgan yn credu fod ei gais i stopio'r cloc rhag canu rhwng hanner nos a saith y bore "yn un rhesymol".
"Rydym wedi cael sawl cwyn gan bobl sy'n aros gyda ni dros nos am y sŵn sy'n dod o'r cloc sy'n canu bob chwarter awr ddydd a nos," meddai.
Gwrthod cais i dawelu cloc Machynlleth dros nos - beth yw'r farn yn lleol?
Ar ôl blynyddoedd heb ganu fe gafodd gwaith adfer i'r cloc ei gwblhau y llynedd mewn pryd i nodi 150 o flynyddoedd ers ei adeiladu.
"'Da ni'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn ma' cyngor y dref wedi ei wneud i adnewyddu'r cloc yn ddiweddar," meddai Mr Morgan.
"Mae'r cloc yn rhan bwysig o'r dref, yn atyniad i dwristiaid, ac fel person lleol rydw i'n caru'r cloc.
"Ond credaf fod ein cais i ofyn i'r cloc i fod yn dawel yn ystod oriau'r nos yn un teg.
"Ein teimlad ni ydy nad ydy'r cyngor wedi rhoi'r drafodaeth nac yr ystyriaeth iawn i'r mater hwn."

Mae Huw Morgan yn ystyried a oes modd cwyno eto ynghylch sŵn y cloc dros nos
Nid Mr Morgan, sy'n rhedeg y gwesty gyda'i bartner ers 18 mis, yw'r cyntaf i godi pryderon am sŵn y cloc.
Gan fod y cyngor wedi gwrthod y cais i'w dawelu dros nos, bydd yn rhaid aros chwe mis cyn cyflwyno cwyn arall.
"Wrth symud ymlaen mae gennym nifer o opsiynau, gan gynnwys casglu barn pobl a busnesau cyfagos," meddai.
"Ond yn gyfreithiol mae rheolau llygredd sŵn fel arfer yn cael eu defnyddio gan drigolion yn hytrach na busnesau, felly ma' hynny'n her i ni."

Mae'r gwesty yn agos iawn at gloc y dref
Yn ôl cofnodion y cyngor tref, fe gafodd y pryderon eu trafod mewn cyfarfod ddiwedd Gorffennaf.
Roedd y cynghorwyr yn teimlo fod sŵn y cloc yn "rhan o gymeriad y dref".
Doedd Cyngor Tref Machynlleth ddim am wneud sylw pellach ar y mater.
'Poen' i rai - 'sŵn cefndir' i eraill
Cymysg yw'r farn wrth holi pobl leol ac ymwelwyr ynghylch sŵn y cloc ers iddo gael ei adnewyddu.
Dywed un perchennog eiddo yn y dref nad yw erioed wedi derbyn cŵyn gan ei denantiaid.
"Mae gennyf wyth fflat sy'n wynebu'r cloc a does neb yn cwyno - mae'n rhan o'r dref," meddai. "Ond allwch chi ddim plesio pawb o hyd, na 'llwch?"
"I mi, dim ond sŵn cefndir yw'r cloc," dywedodd dyn lleol arall.
"Dydw i ddim wir yn sylwi arno ac yn 'i ffiltro allan i ddweud y gwir, ond rwy'n gwerthfawrogi y gallai fod yn boen i bobl sy'n aros yma ac sydd ddim wedi arfer ag ef."

Dywedodd un sy'n ymweld â'r dref ers 16 mlynedd gyda'i theulu ei bod wedi sylwi bod y cloc yn gweithio unwaith eto.
"Dwi wedi sylwi ei fod yn canu'n amlach, ond ddim yn rhy aml," meddai, "ond byddem ni ddim yn sylwi arno yn y nos gan ein bod ni'n aros y tu allan i'r dref."
Dros y blynyddoedd mae sawl ymgais wedi bod i godi arian i gynnal a chadw'r cloc.
Dros 150 o flynyddoedd yn ôl pobl y dref oedd yn gyfrifol am godi'r arian i'w adeiladu.
Fe gafodd y garreg sylfaen ei gosod yn 1874 i ddathlu pen-blwydd mab hynaf teulu'r Plas yn y dref.