Corff dyn 20 oed wedi'i ganfod ar Yr Wyddfa

JohnFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff John o Orllewin Sussex ei ganfod ar Yr Wyddfa fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae corff dyn 20 oed oedd ar goll wedi cael ei ganfod ar Yr Wyddfa.

Cafodd y corff ei ddarganfod am 10:00 fore Mawrth, meddai Heddlu'r Gogledd.

Mae'r dyn wedi cael ei adnabod yn swyddogol fel John - dyn ifanc o Orllewin Sussex oedd wedi bod ar goll ers dydd Llun.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Pynciau cysylltiedig