Rhybudd bod twyllwyr yn targedu peiriannau parcio ym Môn

Maes parcio Nant-y-Pandy, LlangefniFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un person wedi dod o hyd i gôd QR wedi'i ludio ar beiriant parcio ym maes parcio Nant-y-Pandy yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ar Ynys Môn yn cael eu rhybuddio am godau QR ffug sydd wedi'u glynu ar beiriannau parcio i'w twyllo i roi manylion talu.

Dywed y cyngor eu bod wedi dod o hyd i nifer o sticeri yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac yn eu tynnu cyn gynted â phosib.

Mae nifer o bobl wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi rhoi manylion talu ar ôl sganio'r côd ffug, ond bod y taliad wedi'i rwystro gan eu banc mewn pryd.

Mae sgamiau tebyg wedi cael eu cofnodi mewn rhannau eraill o Gymru dros y misoedd diwethaf.

Roedd post ar Facebook dros y penwythnos yn dweud fod un person wedi dod o hyd i gôd QR wedi'i ludio ar beiriant parcio ym maes parcio Nant-y-Pandy yng nghanol tref Llangefni.

Dywedodd y person a bostiodd ei bod wedi sganio'r côd, ac wedi cael £49.95 wedi'i gymryd o'i chyfrif.

Roedd y sgamwyr wedi creu taliad tanysgrifio awtomatig hefyd.

Sylweddolodd banc y fenyw bod y ddau achos yn daliadau twyllodrus, a'u canslo.

'Byddwch yn ofalus'

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Ynys Môn: "Byddwch yn ofalus wrth dalu am barcio – peidiwch â defnyddio codau QR ffug!

"Mae nifer o sticeri côd QR twyllodrus wedi'u darganfod ym meysydd parcio'r awdurdod yn ddiweddar.

"Mae'r wefan ffug y tu ôl i'r côd QR yn dwyn eich manylion talu.

"Nid yw'r cyngor yn defnyddio codau QR ar gyfer unrhyw daliadau ym meysydd parcio'r awdurdod.

"Gallwch dalu ag arian parod, cerdyn (mewn rhai lleoliadau) neu drwy ddefnyddio'r ap PayByPhone swyddogol."

Peiriant Parcio yn Sir ConwyFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae sgamiau tebyg hefyd wedi cael eu cofnodi sir Conwy dros y misoedd diwethaf

Mae sgamiau tebyg hefyd wedi cael eu cofnodi yn sir Conwy yn ystod y misoedd diwethaf.

Gwelwyd codau QR ffug ar beiriannau parcio yn Llandudno yn ystod haf 2024, ac yna eto yn y sir ar ddechrau 2025.

Dywedodd Cyngor Conwy ar y pryd fod pobl sy'n credu eu bod wedi talu am eu parcio trwy gôd QR ffug hefyd mewn perygl o ddirwyon parcio.

Dywedodd fod swyddogion yn parhau i fonitro peiriannau parcio ledled y sir, a bydd yn gweithio gyda'r heddlu a PayByPhone i gael gwared ar safleoedd twyllodrus.

Pynciau cysylltiedig