'Ysgwyd a chrio' ar ôl colli cannoedd o bunnau drwy dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gollodd gannoedd o bunnau drwy dwyll yn dweud ei bod hi'n "ysgwyd a chrio" ar ôl i'r sgamiwr regi arni a'i gwneud yn destun sbort.
"Roedd e'n chwerthin, yn dweud fy mod i'n dwp. Roedd ei iaith yn anghredadwy," yn ôl Wendy Falconer.
"Fe ddywedodd 'os hoffet ti edrych ar dy ap nawr, fe weli di fi'n cymryd dy arian."
Roedd Mrs Falconer yn aros yn ei charafan yn Nhywyn yn ne Gwynedd, pan gafodd ei thwyllo.
Roedd hi yno'n edrych ar ôl ei gŵr, Dave, oedd yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar y galon.
Fe dderbyniodd alwad ffôn gan rywun oedd yn esgus ei fod yn cysylltu ar ran ei banc.
Fe dwyllodd y sgamiwr Mrs Falconer i roi ei chôd diogelwch iddo, a roddodd fynediad i'w chyfrif banc, ac fe gafodd bron i £400 ei ddwyn.
Cafodd yr arian yn ôl gan ei banc, ond fe ddywedodd Mrs Falconer mai'r gwatwar oedd wedi ei phoeni fwyaf.
"Pam oedd rhaid iddo wneud hynny? Roedd e' wedi cael yr arian yn barod...," meddai.
"Roedd yn chwerthin cymaint ar fy mhen, ac roedd yr iaith yn afiach, yn galw enwau arna i.
"Fe ddywedodd 'ti mor dwp'. Ro'n i mewn sioc."
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, sydd wedi bod yn ymchwilio i'r drosedd, roedd Mrs Falconer, yn "anlwcus" i gael ei sarhau cymaint.
Mae Mrs Falconer yn byw ger Llwydlo yn Sir Amwythig, ond mae'r ddynes 63 oed wedi bod yn dod i Dywyn ar wyliau ers ei bod hi'n saith oed ac mae gan ei theulu garafan yno ers sawl blwyddyn.
I ddechrau, roedd y sgamiwr yn "broffesiynol iawn" meddai, ac yn gwybod pethau am ei chyfrif.
Fe wnaeth o hyd yn oed ei rhybuddio am beryglon sgamiau, yn ôl Mrs Falconer.
Dywedodd bod yr alwad i weld fel petai'n dod o rif ffôn ei banc, gan ei bod wedi arbed y rhif hwnnw yn ei ffôn.
Mae'r arfer o guddio rhif ffôn, neu wneud iddo edrych fel pe bai'n dod o sefydliad go iawn, yn "sgam gyffredin", yn ôl Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rachel Roberts nad yw sgamwyr bob tro'n dynwared rhifau banciau yn unig.
"Ry'n ni hefyd yn gweld dioddefwyr yn derbyn galwadau ffôn gan rywun sy'n honni eu bod yn ffonio o gwmni Amazon, ac yn aml o gwmnïau eraill fel Microsoft, neu hyd yn oed Apple," meddai.
"Mae sawl dioddefwr wedi dweud wrthon ni eu bod nhw wedi cael galwadau ffôn gan eu meddyg teulu, neu eu fferyllfa leol, yn gofyn iddyn nhw roi manylion banc fel eu bod nhw'n gallu talu am bresgripsiwn neu wasanaeth cludiant."
'Creu teimlad o frys ac ofn'
Yn ôl Damon Rands o gwmni diogelwch y we Pure Cyber, mae sgamwyr "wastad eisiau creu teimlad o frys ac ofn".
Mae'n dweud y dylai unrhyw un sy'n cael galwad ffôn yn honni bod rhywbeth yn bod ar gyfrif neu wasanaeth, ddod â'r alwad i ben, aros pum munud ac yna ffonio'r darparwr yn ôl.
"Ewch ar y wefan, a sicrhau eich bod yn ffonio'r rhif cywir."
Mae'r rheoleiddiwr cyfathrebu Ofcom yn dweud: "Peidiwch byth â datgelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch wedi ateb galwad ffôn.
"Peidiwch ychwaith â dibynnu ar y gwasanaeth Adnabod y Galwr fel yr unig ffordd o gael gwybod pwy sydd ar y ffôn, yn arbennig os bydd y galwr yn gofyn i chi wneud rhywbeth a allai olygu canlyniadau ariannol i chi."
Yn ôl Mrs Falconer, mae ei phrofiad wedi achosi iddi golli cwsg.
"Byddai rhai pobl yn meddwl 'geiriau, dyw'n ddim byd', ond mae e, mae'n brifo ac rydych chi'n teimlo mor wirion."
Fe benderfynodd siarad am ei phrofiad i rybuddio pobl eraill am beryglon sgamiau.
"Fe adawodd [y profiad] fi i deimlo mor isel, roedd y dyn yma mor ofnadwy... Dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd i unrhyw un arall."
Gallwch gofnodi sgam ar wefan ActionFraud, dolen allanol sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wahanol fathau o sgamiau sy'n gyffredin ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023