'Gofalwch rhag sgamiau sy'n targedu siaradwyr Cymraeg'

Anwen Roberts a Gareth Potter
Disgrifiad o’r llun,

Anwen Roberts a Gareth Potter - dau sy'n rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wedi iddyn nhw gael eu targedu gan sgamwyr yn ddiweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae yna alw ar bobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau digidol sy’n targedu siaradwyr Cymraeg.

Mae Cymru Fyw wedi siarad ag unigolion a busnesau bach ar draws Cymru a gafodd eu twyllo gan sgamwyr.

Un o’r rhai gafodd ei thargedu yn ddiweddar oedd Anwen Roberts, sy’n rhedeg cwmni dylunio Draenog yng Nghaernarfon.

“Tydi o ddim yn neis meddwl galla pobl golli ffydd ynddo ni fel busnes oherwydd hyn,” meddai.

“Dwi wedi gweld ar y cyfryngau cymdeithasol bod cwmnïau Cymraeg eraill wedi cael eu targedu, felly mae’n rhaid bod o’n broblem eang yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.”

Disgrifiad,

Anwen Roberts yn disgrifio'r hyn a ddigwyddodd i'w chwmni, Draenog

Yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mae'r heddlu'n ymwybodol o gynnydd yn y math yma o sgamiau.

“Ein rhybudd ni o faes plismona yw bod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n cysylltu â chi, ym mha bynnag iaith," dywedodd, "yn enwedig os maen nhw’n defnyddio’r iaith Gymraeg, a bod chi ddim yn disgwyl y cysylltiad hynny."

Tudalen Facebook ffug

Fe gododd trafferthion cwmni Draenog fis diwethaf wrth redeg cystadleuaeth i ennill siwmper Nadolig ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

“Ar y bore ar ôl i’r gystadleuaeth orffen cefais lwyth o negeseuon gan bobl yn mynnu bod nhw wedi ennill, ond o’n i heb ddewis yr enillydd,” meddai Anwen Roberts.

Ar ôl tipyn o waith tyrchu fe ddaeth i’r amlwg mai sgamwyr oedd wedi bod ar waith.

Yn ôl Anwen roedd rhywun wedi creu tudalen Facebook ffug er mwyn cysylltu â’r cwsmeriaid ac wedi holi nhw am fanylion banc.

“Cafodd pawb neges bersonol yn gofyn iddyn nhw glicio ar ddolen oedd wedyn yn gofyn iddyn nhw rannu eu manylion banc er mwyn cael hawlio’r wobr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sgamwyr wedi manteisio ar gystadleuaeth gan gwmni Draenog ar y cyfryngau cymdeithasol i dargedu pobl gan ddweud eu bod yn enillwyr

Roedd y Gymraeg yn y negeseuon braidd yn chwithig, medd Anwen Roberts, ac fe wnaeth hynny greu amheuaeth ymhlith ei chwsmeriaid.

“Does neb wedi dweud wrtha' i fod nhw wedi rhoi manylion personol i’r sgamwyr, diolch byth, ond doedd o ddim yn brofiad neis," dywedodd.

“O’n i wedi synnu bod y sgam yn cael ei weithredu drwy’r Gymraeg ond yn dallt bydda bobl yn llai parod i gwestiynu oherwydd hynny.

“Fyddwn ni byth, fel busnes, yn holi pobl i rannu manylion personol yn y ffordd yna. O hyn ymlaen fyddai’n rhybuddio cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus o scams.”

Dwyn cyfrif Instagram i werthu Bitcoin

Un arall â phrofiad o gael ei sgamio drwy’r Gymraeg yw’r actor Gareth Potter o Gaerdydd.

Disgrifiad,

Mae yna duedd, medd Gareth Potter, "i beidio meddwl gall pethau drwg ddigwydd drwy’r iaith Gymraeg"

“Llynedd ar Instagram ges i neges gan rywun o’n i yn dilyn, yn y Gymraeg, yn gofyn i mi neud rhywbeth iddo fo ar-lein," dywedodd.

“Ond o fewn yr awr doedd dim cyfrif Instagram gyda fi. Oedd o’n brofiad ofnadwy, i ddweud y gwir.”

Fe ddaeth yn amlwg bod rhywun wedi cymryd drosodd ei gyfrif Instagram er mwyn gwerthu Bitcoin, neu arian digidol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Potter ei dargedu gan sgam drwy Instagram

“Yn sydyn reit oedd pobl oedd yn dilyn fi yn meddwl fy mod i’n gwerthu Bitcoin.

“Gan fod y neges wreiddiol gennai gan rywun oedd wedi cael ei hacio yn y Gymraeg o’n i yn trystio fe.

“Ni’r Cymry Cymraeg yn rhy barod i ymddiried mewn rhywbeth os mae e yn Gymraeg.

"Ni’n tueddu i beidio meddwl gall pethau drwg ddigwydd drwy’r iaith Gymraeg.”

Ymddiried mwy mewn neges 'iaith gartrefol'

Mae Dafydd Llywelyn, sy’n aelod o fwrdd Plismona Digidol dros Gymru, yn dweud bod technoleg deallusrwydd artiffisial, neu Artificial Intelligence (AI), yn ei gwneud hi’n haws i sgamwyr fanteisio ar yr iaith.

“Ni’n ymwybodol bod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy yn y math yma o ddigwyddiadau nag yn y gorffennol,” meddai.

“Yr ydym yn ymwybodol bod technoleg newydd yn galluogi pobl i ddefnyddio meddalwedd AI i ddynwared ieithoedd gwahanol.

“O ganlyniad i’r defnydd o’r iaith Gymraeg falle bod pobl yn fwy agored i niwed.

“Yn anffodus mae pobl yn tueddu i ymddiried os mae cysylltiad yn dod yn ei hiaith gartrefol nhw.”

Disgrifiad,

Mae gofyn i bobl bwyllo ar ôl derbyn negeseuon annisgwyl, medd Dafydd Llywelyn

Mae Mr Llywelyn yn cynghori pobl i gymryd pwyll wrth ymateb i negeseuon annisgwyl.

“Mae isio bobl i fod yn wyliadwrus ac ni’n rhybuddio pobl i sicrhau bod nhw’n cwestiynu unrhyw neges destun neu alwad ffôn neu ebost penodol a gwneud eich gwaith ymchwil cyn bod chi’n rhannu manylion personol."

Mewn datganiad, dywedodd Meta, sy’n berchen ar blatfformau Facebook ac Instagram, nad ydynt yn caniatáu gweithgarwch twyllodrus, a'u bod yn gweithio gyda'r awdurdodau i helpu dioddefwyr.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn tynnu cyfrifon sy'n honni i fod yn rhywun arall oddi ar eu platfformau, ac os yw pobl yn gweld cyfrifon o'r fath, bod modd rhoi gwybod drwy'r apiau.