'Pobl ddim i fod i weld erchyllterau Afghanistan'

Steven Peters yn Nhalaith Helmand yn 2009 yn gwisgo gwisg filwrolFfynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures/Kailash Films
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Sarjant Steven Peters fod ei blatŵn mewn "lle drwg iawn" erbyn diwedd y daith

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod all beri gofid.

Mae cyn-filwr o Ynys Môn wedi dweud iddo gael argyfwng iechyd meddwl ar ôl bod yn dyst i erchyllterau yn Afghanistan.

Cafodd y Sarjant Steven Peters o'r Gwarchodlu Cymreig ei yrru i Dalaith Helmand yn 2009, yn ystod cyfnod sy’n cael ei adnabod fel yr un mwyaf gwaedlyd i fyddin Prydain mewn mwy na 50 mlynedd.

Dywedodd iddo weld ffrind oedd yn gyfieithydd yn camu ar ddyfais ffrwydrol (IED) tra ar batrôl.

Dyw bodau dynol ddim i fod i weld y fath erchyllterau, meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures/Kailash Films
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarjant Peters yn un o 10 o gyn-filwyr sy'n rhan o raglen ddogfen newydd

Mae Sarjant Peters, 42, yn un o 10 cyn-filwr sydd wedi siarad gyda’r BBC fel rhan o raglen ddogfen newydd - Helmand: Tour of Duty - sy’n nodi degawd ers i’r fyddin adael Afghanistan.

Ym mis Medi 2009, roedd gan blatŵn Sarjant Peters lai na mis ar ôl o’u taith pan gafon nhw eu dewis i arwain ymosodiad ar ardal oedd yn cael ei rheoli gan y Taliban.

"Fe wnes i ddatblygu perthynas agos gyda’r cyfieithydd, Ahmed Popal," meddai.

"Fe ddywedodd wrtha i bod o’n edrych 'mlaen at fynd adra i weld ei blant a’i deulu ar ddiwedd yr wythnos.

"Roedden ni'n patrolio drwy ardal y Taliban – yn gwybod mai dyma'r ardal fwyaf peryglus yn y byd."

Dechreuodd yr ymosodiad yn y tywyllwch.

Llwch, mwg a sgrechian

Dywedodd Sarjant Peters mai'r cyfan mae’n ei gofio oedd gweld llwch, arogli mwg a chnawd, a chlywed sgrechian.

"O’n i'n eistedd i lawr efo fy nghoesau yn y twll enfawr 'ma ac yn gallu gweld rhywbeth tywyll ar y gwaelod.

"Be' welais i'r bore hwnnw - dydy bodau dynol ddim i fod i weld. Popal oedd o.

"Roedd ei gorff o wedi torri yn hanner - doedd dim byd ar ôl o'i fotwm bol i lawr.

"Roedd gen i berthynas agos efo Popal, a 'naeth hyn daro fi yn galed iawn. Mae'n dal i effeithio arna i hyd heddiw."

Bu farw 10 dyn o grŵp brwydro'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod haf 2009.

Dywedodd Sarjant Peters fod ei blatŵn mewn "lle drwg iawn" erbyn diwedd y daith.

"Ges i breakdown catastroffig," meddai.

"Es i drwy therapi am naw mis, dwi'n falch o hynny - achos heb hynny fe fyddai'r breakdown yna'n dal i gael effaith arna i hyd heddiw."

Ffynhonnell y llun, BBC/Passion Pictures/Kailash Films
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Sarjant Peters naw mis yn derbyn therapi ar ôl dychwelyd o'r daith

Dros yr 20 mlynedd o wasanaeth yn Afghanistan, bu farw 457 aelod o luoedd arfog y DU.

Ym mis Awst 2021, saith mlynedd ar ôl i filwyr Prydain adael Afghanistan, fe wnaeth y Taliban adennill rheolaeth ar Afghanistan, gan gynnwys Talaith Helmand.

"Dwi'n cofio'r diwrnod y cwympodd Kabul," meddai'r Sarjant Peters.

"Beth oedd pwrpas yr holl beth? Yr holl bobl yna fu farw."

Er gwaethaf hyn, dywedodd Sarjant Peters ei fod dal yn teimlo'n falch o'i wasanaeth yno.

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.