Cau dau draeth yn Llangrannog wedi llygredd

Llangrannog
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna rybudd i beidio nofio yn Llangrannog a Chilborth

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd i bobl osgoi dau draeth yng Ngheredigion ar ôl "digwyddiad llygredd".

Mae arwyddion wedi'u gosod gan Gyngor Sir Ceredigion ar draethau Llangrannog a Chilborth yn cynghori pobl i beidio mynd at y traeth ac i beidio nofio.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod wedi derbyn "adroddiad o ddŵr afliwiedig" yn llifo o Afon Hawen i draeth Llangrannog am 08:00 ddydd Gwener, 12 Gorffennaf.

Ychwanegon nhw bod ffermwr o'r ardal, yn y cyfamser, wedi dweud wrthyn nhw fod slyri o'i lagŵn wedi gollwng i mewn i'r afon.

Cafodd swyddog amgylchedd CNC ei anfon i'r fferm ac yr oedd y ffermwr eisoes wedi cymryd camau i atal llygredd pellach.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC yng Ngheredigion, fod y tîm wedi "gweithredu'n gyflym i ymchwilio a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i atal y llygredd yn ei ffynhonnell".

Mae "sefyllfa annormal" wedi cael ei datgan ar gyfer traeth Llangrannog a thraeth Cilborth, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Afon Hawen yn Llangrannog

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “Mae gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid rheoleiddio i sicrhau bod y risg o ran iechyd y cyhoedd o'r digwyddiad llygredd hwn yn cael ei reoli.

"Cynghorir y cyhoedd i beidio â mynd at y traeth a/neu nofio yn y dŵr er eu diogelwch eu hunain nes bod yr arwyddion wedi'u tynnu lawr i ddangos bod y digwyddiad wedi pasio.

“Gall aelodau o'r cyhoedd barhau i nofio ar draethau Tresaith ac Aberporth gerllaw sy'n cael eu patrolio yn ddyddiol gan achubwyr bywyd RNLI rhwng 10:00 a 18:00 tan ddydd Sul 1 Medi 2024."

Pynciau Cysylltiedig