Amgueddfa Cymru: £3.7m 'ddim am fynd yn ddigon pell'

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ffynhonnell y llun, AMGUEDDFA CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r £3.7m wedi cael ei ddisgrifio fel "swm bach" gan gadeirydd Amgueddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn £3.7m rhyngddynt i ariannu "gwaith atgyweirio brys" a gwella sut mae eu casgliadau'n cael eu storio.

Er yn cydnabod ei fod yn "gam positif", dywedodd cadeirydd yr amgueddfa ei fod yn "swm bach" pan oedd angen gwneud gwerth tua £25m o atgyweiriadau brys hanfodol i'r adeilad.

Wrth siarad yn yr Amgueddfa Genedlaethol ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths mai “swm bach iawn ydyw".

"Rwy’n gwerthfawrogi hynny’n llwyr, ond dyna’r cyfan y gallaf ddod o hyd iddo eleni,” meddai

'Angen miliynau sylweddol'

Dywedodd Kate Eden, cadeirydd Amgueddfa Cymru: “Ni fydd yr arian yn mynd yn ddigon pell.

"Ond bydd yn caniatáu i ni gael yr arbenigedd technegol i roi’r achos busnes hwnnw at ei gilydd, i wneud rhai gwelliannau brys ar unwaith, a gwella hygyrchedd.”

Mae to'r amgueddfa, sydd dros 100 oed, yn gollwng - sy'n golygu bod yn rhaid tynnu paentiadau o ystafelloedd y llawr uchaf a'u storio mewn mannau eraill yn ystod cyfnodau o law trwm.

Un o'r ymweliadau cyntaf a wnaeth Lesley Griffiths ers ei phenodi yn weinidog y cabinet dros ddiwylliant a chyfiawnder cymdeithasol oedd i'r amgueddfa.

Wrth siarad â phwyllgor yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd: "Dydw i erioed wedi gweld cymaint o fwcedi yn dal dŵr. Roedd yn erchyll."

Dywedodd hefyd wrth y pwyllgor diwylliant fod "angen miliynau sylweddol" i atgyweirio to'r amgueddfa yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lesley Griffiths y bu'n rhaid dileu cynlluniau ar gyfer amgueddfa yng ngogledd Cymru

Dywedodd Ms Griffiths: "Rwyf wedi ail-flaenoriaethu fy nghyllideb i ddod o hyd i'r cyllid (a fydd) yn helpu i wneud y gwaith atgyweirio brys hynny eleni ond rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yn y tymor hir y bydd angen cyllid sylweddol.”

Dywedodd fod yr arian wedi'i glustnodi drwy ddileu cynlluniau ar gyfer amgueddfa yng ngogledd Cymru a safle angori ar gyfer cynllun yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, sydd ar hyn o bryd wedi'i wasgaru ar draws naw oriel gelf.

“Allwn ni ddim cael adeilad newydd pan fod gennym ni adeiladau eiconig fel hyn sydd angen cyllid.”

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n meddwl y byddai pobl yng ngogledd Cymru'n "wedi siomi" dywedodd "na, nid wyf yn meddwl hynny. Rwy'n dod o ogledd Cymru a dydw i ddim yn teimlo hynny o gwbl."

Ychwanegodd fod Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis eisoes wedi derbyn "cyllid sylweddol" i'w gwella, a bod disgwyl iddi gael ei chau am flwyddyn o fis Tachwedd 2024 ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Disgrifiad o’r llun,

Llyfrgell Genedlaethol: "Bydd y cyllid yn galluogi gweithiau y mae mawr eu hangen"

Dywedodd prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at waith adnewyddu hanfodol i adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

“Mae’r casgliad cenedlaethol sy’n cael ei gadw yma yn drysor sy’n perthyn i’r genedl a bydd y cyllid yn galluogi gweithiau y mae mawr eu hangen.

"Bydd cwblhau’r gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau’n ddiogel yn y tymor hir ac yn sicrhau mynediad iddynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gostyngiad o 10.5% yn eu cyllid

Ym mis Rhagfyr 2023 hysbyswyd Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol am ostyngiad o 10.5% yn eu cyllid – y toriad mwyaf yn eu hanes.

Dywedodd yr amgueddfa y byddai'r toriad yn £3m tra bod y llyfrgell yn Aberystwyth wedi dweud y byddai'r toriad yn £1.3m.

Ym mis Ebrill dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson y byddai'n rhaid torri "o leiaf 90 o swyddi", ond nid oes union ffigwr wedi ei gyhoeddi tra bod yr ymgynghoriad yn parhau.

Amcangyfrifir bod angen cyfanswm o £90m ar saith safle Amgueddfa Cymru tuag at atgyweiriadau a gwelliannau.

Mae’r safleoedd eraill yn cynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Pwll Glo Big Pit ym Mlaenafon, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Wlân Cymru ger Llandysul ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

Fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu'r "arian ychwanegol".

"Ond mae'r ffaith nad oes mwy o arian yn cael ei gynnig yn hurt wrth gofio bod Llafur yn bwrw 'mlaen â chynlluniau i gyflwyno 36 aelod ychwanegol i Senedd Cymru.

"Os yn gorfod dewis rhwng ariannu'n treftadaeth neu ariannu mwy o wleidyddion, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dewis ein treftadaeth bob tro."