Y Llyfrgell Gen a'r Amgueddfa: Cau deiseb 12,075 llofnod
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb yn galw am "dyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol" wedi ei chau ar ôl casglu 12,075 llofnod.
Mae Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru wedi penderfynu gofyn am i'r ddeiseb gan Susan Jones-Davies gael ei thrafod mewn cyfarfod llawn o'r holl aelodau yn y siambr.
Yn ôl y ddeiseb: "Mae’n glir bod y toriadau yn mynd i, neu eisoes yn, cael effaith andwyol ym maes addysg, yn y gwasanaethau maen nhw’n darparu i bobl Cymru, yn y buddion iechyd meddwl maen nhw’n darparu i’r cyhoedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru bod y sefyllfa ariannol yn golygu "y bydd angen lleihau rhywfaint ar y gwaith a wnawn... a chreu Amgueddfa Cymru sy’n addas i’r dyfodol".
Ychwanegodd y Llyfrgell Genedlaethol fod 24 o staff wedi gadael yn wirfoddol a'u bod yn "addasu ein ffyrdd o weithio er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n defnyddwyr".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG".
'Trychinebus'
Yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, cafodd y llyfrgell 10.5% o doriad o’i gyllid craidd, sef £1.3m, ar ben diffyg ariannol o tua £1.4m.
Meddai Susan Jones-Davies: "Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu ymadawiadau gwirfoddol yn hytrach nag ariannu’r sefydliad, mae 24 aelod o staff wedi mynd neu yn mynd, sef dros 10% o’r gweithlu.
"Cyflawnwyd y cynllun ymadael yn wirfoddol yn mor gyflym fel bod cynllunio olyniaeth yn anodd os nad amhosibl.
"Mae’r 24 felly wedi cymryd eu sgiliau, arbenigedd a phrofiad gyda nhw wrth adael.
"Yn barod, mae nifer o feysydd wedi dioddef."
Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol eu bod "wedi colli staff mewn gwahanol ardaloedd gwaith yn dilyn toriad i’n cyllid ar gyfer 2024/25".
"Mae cyfanswm o 24 o staff wedi penderfynu ymadael yn fuan o ganlyniad i'r cynllun.
"Rydym yn gweithio i addasu ein ffyrdd o weithio er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n defnyddwyr."
Mae Amgueddfa Cymru wedi cael 10.5% o ostyngiad yn y cymorth grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, sy'n golygu gostyngiad o £3m yn eu cyllideb graidd.
Ar ben hynny mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysgwyddo diffyg blynyddol o £1.5m, sy’n golygu eu bod wedi gorfod gwneud cyfanswm o £4.5m o doriad i’r gyllideb ar gyfer 2024/25.
'Y toriad mwyaf yn ein hanes'
Dywedodd llefarydd: "Dyma’r toriad mwyaf i’n cyllideb yn hanes yr Amgueddfa, a bydd yn cael effaith fawr ar waith yr Amgueddfa o ddydd i ddydd.
"Er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn gallu parhau i weithredu o dan y cyfyngiadau cyllid newydd, mae Amgueddfa Cymru wedi gorfod ystyried nifer o opsiynau arbed costau.
"Mae 90% o’r incwm a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar gostau staff. Er ein bod ni’n edrych ar gyfleon cynhyrchu incwm newydd yn ogystal â chostau gweithredu, bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o’r arbedion ddod drwy dorri swyddi.
"Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gwneud unrhyw ddiswyddiadau gorfodol hyd yma, ond rydyn ni ar ganol rhaglen ddiswyddo gwirfoddol mewn ymateb i’r toriad yn ein nawdd."
Dywedodd ni all gadarnhau nifer y diswyddiadau gwirfoddol ar hyn o bryd, ond yn ôl y ddeiseb "mae 144 staff wedi, neu yn mynd, ar y cynllun ymadawiad gwirfoddol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd21 Mai 2024