'Dewis rhwng elw neu'r blaned' i fusnesau twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau twristiaeth yn "gorfod dewis rhwng cynaliadwyedd ac elw" yn ôl un perchennog llety gwyliau, sy'n galw am fwy o gymorth i fusnesau fod yn fwy gwyrdd.
Dywedodd John Whitehead, sydd wedi rhedeg ei borthdy eco ym Mharc Cenedlaethol Eryri ers dros 25 mlynedd, bod angen i'r sector helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Daw wrth i’r cwmni teithio poblogaidd Lonely Planet ddewis Cymru fel un o’r gwledydd mwyaf cynaliadwy i ymwelwyr deithio iddi eleni.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod nhw’n cefnogi busnesau twristiaeth i fod yn fwy cynaliadwy.
Ers prynu ei westy, mae Mr Whitehead wedi ei drawsnewid i fod yn eiddo eco-gyfeillgar trwy inswleiddio'r tŷ o’r newydd, gosod paneli solar a "boeler sy’n gweithredu ar belenni anifeiliaid".
“Nid yw’r pethau hyn yn rhad ond, er gwaetha hynny, does dim llawer o arian allan yna i helpu," meddai.
"Gyda’r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, falle bod modd adennill costau ymhen rhyw pum, chwe mlynedd ac weithiau dydy busnesau ddim yn barod i dderbyn hynny. Maen nhw’n chwilio am elw cyflymach."
Ychwanegodd: "Mae’r llywodraeth yn gallu arwain ar hyn. ‘Da ni mor bell i lawr y ffordd o ran newid hinsawdd erbyn hyn ac mae angen iddyn nhw wneud mwy i helpu."
Yn ôl arolwg diweddar gan YouGov, mae 35% o oedolion y Deyrnas Unedig yn awyddus i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae’r ffigwr yna yn uwch eto ymhlith pobl ifanc (42%), gan gynnwys unigolion fel Ffion sy’n rhannu ffyrdd eco-gyfeillgar o deithio gyda’i miloedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd: “Dwi’n gwneud pwynt o fynd i lefydd sydd yn gynaliadwy achos dwi’n teimlo bod gyda fi gyfrifoldeb i wneud hynny.
"Felly un o’r pethau dwi’n hoff o wneud yw nofio gwyllt a dwi’n gwneud fy ngorau i ddangos i bobl bod ‘na lefydd anhygoel yng Nghymru sy’n dawelach na’r llefydd enwog sy’n gallu bod yn orlawn.
“Dwi hefyd yn trial cefnogi busnesau cynaliadwy i leihau fy ôl-troed carbon. Dwi’n meddwl bod Cymru’n le da i ddod am wyliau cynaliadwy ond mae ‘na waith dal i wneud i wella pethau eto."
Yn ôl Nia Jones, sy’n gyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, mae gan fusnesau’r diwydiant gyfrifoldeb i fod yn fwy eco-gyfeillgar.
Dywedodd: “Mae yna dwf amlwg wedi bod yn y galw am wyliau cynaliadwy yng Nghymru.
"Os allwn ni fel diwydiant ymateb i’r cynnydd hwnnw, bydd busnesau Cymru’n elwa yn y diwedd.”
“Ond hefyd mae yna allyriadau carbon ychwanegol a cholled o fioamrywiaeth yn sgil twristiaeth ac felly mae gennym ni ddyletswydd i weithredu pan bod modd gwneud,” meddai.
Sut mae Cymru’n cymharu â gweddill y byd?
Mae Dr Rhys ap Gwilym, sy’n uwch-darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod Cymru dal ar ei hôl hi o ran twristiaeth gynaliadwy o’i gymharu â rhai o wledydd Ewrop.
“Dwi’n credu bod ‘na fodelau da allan yna fel y gwledydd Llychlyn felly, Norwy, y Ffindir a Sweden," meddai.
"Mae ‘na ffyrdd da o weithredu o ran twristiaeth gynaliadwy yn y llefydd yma yn barod a dwi’n credu bod ‘na le i Gymru ddysgu rhywfaint ohonyn nhw.
"Mae strategaeth dda gyda ni ar gyfer dyfodol y sector yma ond mae’r cam olaf ar goll ar hyn o bryd.”
I’r ardaloedd sy’n denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr mae ceisio taro cydbwysedd yn bwysig.
Dyna pam mae Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi sawl cynllun newydd ar waith.
Dywedodd Angela Jones o awdurdod y parc: “Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i ni. Dyna pam da ni wedi creu systemau fel Sherpa’r Wyddfa a’r ymgyrch yr Wyddfa ddi-blastig."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cefnogi busnesau o fewn y sector twristiaeth i wireddu eu huchelgeisiau o fod yn wyrdd drwy ein hadnodd Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.
"Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda busnesau twristiaeth i sicrhau twf cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. Bydd ein Cronfa Paratoi at y Dyfodol sy’n werth £20m hefyd yn helpu busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023