Cyhuddo llanc, 17, o Gaerdydd o lofruddio tair merch yn Southport

Axel Muganwa Rudakubana
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Axel Muganwa Rudakubana yn y llys fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae llanc 17 oed sy'n hanu o Gaerdydd wedi ymddangos mewn llys am y tro cyntaf wedi ei gyhuddo o lofruddio tri phlentyn yn Southport.

Bu farw tair merch - Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice Aguiar, naw oed - wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn ystod dosbarth dawns.

Mae barnwr wedi codi'r cyfyngiadau sydd fel arfer yn atal y wasg a'r cyfryngau rhag cyhoeddi enwau diffynyddion dan 18 oed.

Mae Axel Muganwa Rudakubana wedi ei anfon i ganolfan gadw ieuenctid ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elsie Dot Stancombe yn saith oed, Alice Aguiar yn naw a Bebe King yn chwech

Yn ogystal â'r tri chyhuddiad o lofruddiaeth, mae hefyd wedi ei gyhuddo o 10 achos o geisio llofruddio, a bod ym meddiant arf finiog, sef cyllell gegin grom.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen yr un llys eto ar 25 Hydref, pan fydd disgwyl iddo gyflwyno ple.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu yn gwarchod mynedfa'r llys yn Lerpwl ble wynebodd y llanc y cyhuddiadau yn ei erbyn

Aeth y diffynnydd o flaen llys ieuenctid yn gynharach - yn llys ynadon y ddinas, sydd yn yr un adeilad â'r Llys y Goron.

Roedd yn gwisgo tracwisg lwyd ac fe orchuddiodd ei wyneb gydol y gwrandawiad a barodd am bum munud.

Cafodd wyth plentyn arall a dau oedolyn oedd yng nghanolfan Hart Space eu hanafu yn yr ymosodiad ddydd Llun, ac mae rhai o'r unigolion yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Cyhoeddodd Ysbyty Plant Alder Hay fore Iau bod dau o'r plant yn eu gofal nhw wedi cael eu rhyddhau, a bod pump yn rhagor, gan gynnwys un oedd yn Ysbyty Athrofaol Aintree yn wreiddiol, mewn cyflwr sefydlog.

Fe gyhoeddodd Heddlu Glannau Mersi fanylion y cyhuddiadau yn erbyn y llanc yn ystod cynhadledd i'r wasg yn fuan wedi hanner nos.

Pynciau cysylltiedig