Carcharu chwaraewr snwcer am ymosod ar ei bartner
![Michael White](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/757/cpsprodpb/4c86/live/44cb5bb0-403f-11ef-96a8-e710c6bfc866.png)
Mae Michael White wedi colli ei le ar Daith Snwcer y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr snwcer o Gymru wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar am ymosod ar ei bartner.
Cafodd Michael White, 33, o Gastell-nedd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau am ymosodiad a achosodd niwed corfforol gwirioneddol.
Dywedodd Cymdeithas Biliards a Snwcer Proffesiynol y Byd (WPBSA) ei fod wedi colli ei le ar Daith Snwcer y Byd a rhestr detholion y byd.
“Nid yw'r WPBSA yn goddef ymddygiad o'r fath gan aelod, ac rydym wedi cymryd camau ar unwaith i dynnu Michael White fel aelod," meddai llefarydd.
![Michael White](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1200/cpsprodpb/338e/live/c4a1fc10-4056-11ef-bd17-bd645d44b546.jpg)
Roedd Michael White yn 60ain yn rhestr detholion y byd cyn iddo gael ei wahardd
Dywedodd y sefydliad ei fod wedi bod yn monitro'r achos llys ac wedi galw cyfarfod brys yn dilyn y ddedfryd.
Bydd aelodaeth White yn dod i ben "ar unwaith".
White oedd y chwaraewr ieuengaf i sgorio canrif mewn cystadleuaeth, a hynny pan oedd yn naw oed, ac roedd yn bencampwr amatur y byd yn 14 oed.
Enillodd ei dlws mawr cyntaf yng Nghystadleuaeth Agored India yn 2015.
Roedd yn 60ain yn rhestr detholion y byd cyn iddo gael ei wahardd.