Anghyfartaledd hil dal yn bodoli yn y cyfryngau - seren Gogglebocs
- Cyhoeddwyd
Mae anghyfartaledd o ran hil yn dal i gael ei weld yn y cyfryngau ac yn ehangach mewn cymdeithas, yn ôl un o sêr y gyfres deledu Gogglebocs.
Un enghraifft o hynny yw penawdau'r newyddion, lle mae angen gofal os am sicrhau cyfiawnder hiliol, meddai Molara Awen - wyneb cyfarwydd o'r gyfres ar S4C.
A hithau'n wythnos cyfiawnder hiliol, dywedodd bod cael digwyddiad o'r fath yn hwb i ymgyrch y llywodraeth i gael Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.
"Mae yna pethau pwysig yn digwydd yn y cyfeiriad iawn ond mae'r ddeialog yn gallu bod yn polarised o hyd," meddai Ms Awen, sy'n cynnal gweithdai Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn Sir Benfro.
"Gyda digwyddiadau fel [llofruddiaethau] Southport, er enghraifft, 'dan ni'n siarad am liw croen troseddwr ond pan mae dyn gwyn yn troseddu, ni ddim yn cyfeirio at liw ei groen.
"Dwi ddim yn deall pam bod hyn yn parhau i ddigwydd - gan fod yna droseddwyr gyda chroen gwyn, brown... pob lliw. Dwi ddim yn deall pam mae lliw croen yn bwysig pan 'dan ni'n sôn am bethau ofnadwy."
Cafodd Sul Cyfiawnder Hiliol a gweithgareddau'r wythnos sy'n dilyn ei sefydlu yn 1995 gan yr eglwys Fethodistaidd, a hynny ddwy flynedd wedi llofruddiaeth Stephen Lawrence yn Llundain.
Ers hynny mae'r gweithgareddau wedi dod yn rhan o raglen Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon.
Cynrychiolydd y gweithgareddau yng Nghymru yw'r Parchedig Denzil John o Gaerffili, a ddywedodd ei fod yn falch, fel dyn gwyn canol oed, o fod yn eithriad o fewn y grŵp trefnu gan bod yna gynrychiolaeth o sawl gwlad, hil ac enwad.
"Rhaid parchu dynoliaeth gyfan er mwyn parchu ein hunain - un ydym ni ond rhaid i ni fod yn effro i'r ffaith bod anghydraddoldeb yn dal i fodoli yn ein cymunedau a'n heglwysi," meddai.
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
I Molara Awen, sy'n byw ger Crymych, mae'n gweld gwerth mewn ymgyrchoedd o'r fath, gan fod heriau'n parhau yn ddyddiol.
"Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn ac mae pethe'n newid ond bob dydd ry'n ni'n dod ar draws sylwadau hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.
"Bythefnos yn ôl 'nes i weithdy gyda chwnselwyr sy'n gweithio yn Sir Benfro ac ro'n nhw'n dweud bod nhw'n ymwybodol o sylwadau hiliol o hyd ond dwi'n gobeithio nawr bod plant yn fwy hapus i siarad am beth sy'n digwydd.
"Mae unrhyw weithgaredd fel hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod Cymru yn wlad na sy'n hiliol erbyn 2030."