Cynllun i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
Saadia AbubakerFfynhonnell y llun, Saadia Abubaker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Saadia'n dweud iddi brofi cam-drin hiliol ar y stryd

Gobaith cynllun newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth ddydd Mawrth yw y bydd Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru yn cynnwys camau penodol o fewn y llywodraeth i ganolbwyntio'n benodol ar adnabod a "mynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig" erbyn 2024.

Ymhen dwy flynedd, fe fydd y cynllun yn cael ei adolygu i weld pa fath o effaith mae'n ei gael.

Mae cymunedau ac unigolion ledled Cymru wedi cael cyfle i rannu eu profiadau o hiliaeth, ac i ddweud pa fath o newidiadau hoffen nhw ei weld yn digwydd.

'Hiliaeth ar y stryd'

Mae Saadia Abubaker, 20 o Abertawe, wedi cyfrannu at y cynllun trwy gasglu a chynrychioli barn pobl ifanc.

Mae hi'n dweud ei bod hi wedi dioddef o hiliaeth tra roedd hi yn yr ysgol, ac roedd pobl yn gweiddi sylwadau hiliol ati yn y stryd.

"Roedd pobl yn rhegi ataf," dywedodd, "doedd athrawon ddim yn ynganu fy enw yn gywir.

"Cyn gynted ag y nododd un o'r athrawon bod gen i enw o dramor, fe benderfynodd pobl nad oedden nhw'n gallu ei ynganu."

Mae'r cynllun wedi'i lunio gan grŵp dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd, a phrif was sifil Cymru, Dr Andrew Goodall.

Yn ôl yr awduron, mae cynlluniau yn y gorffennol wedi treulio gormod o amser yn canolbwyntio ar geisio "trwsio unigolion neu gymunedau o leiafrifoedd ethnig" yn hytrach na "thrwsio systemau sydd wedi methu."

Mae gweinidogion wedi'u hymrwymo i sicrhau bod na "adnoddau addas" ar gael ym mhob un o adrannau llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.

Mae cynlluniau wedi'u llunio i ddelio â hiliaeth mewn gwahanol feysydd gan gynnwys:

  • hiliaeth mewn bywyd bob dydd tra'n derbyn gwasanaethau,

  • yn y gweithle,

  • wrth chwilio am swyddi,

  • diffyg pobl o gefndiroedd gwahanol mewn swyddi dylanwadol

  • a'r profiad o hiliaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau, ac effaith y pandemig ar gymunedau o leiafrifoedd ethnig.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Ruth Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Marwolaeth George Floyd oedd y prif reswm dros ddatblygu'r cynllun

Yn ôl Maria Monstanza Mesa, cyfarwyddwr yr elusen Women Connect First, sy'n ceisio hybu cyfleoedd i fenywod du ac o leiafrifoedd ethnig, mae angen cadw llygad dros y blynyddoedd nesaf i weld a oes 'na newid yn digwydd.

"Mae cymunedau BAME yn dioddef o wahaniaethu mewn sawl rhan o fywyd - mewn gwaith, iechyd ac addysg," meddai.

"Rydyn ni'n fwy tebygol o farw tra'n feichiog neu wrth rhoi genedigaeth. Mae'r bwlch rhwng cyflogau menywod gwyn a du yn sylweddol."

'Tegwch'

Dywedodd y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt: "Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau nad dim ond ymarferiad o ddweud y peth cywir yw hwn, mae'n gynllun i weithredu dros gymunedau o leiafrifoedd ethnig.

"Dyna pam mae ganddom ni nodau ac amcanion penodol, o ran gweithredoedd mewnol llywodraeth Cymru, ac o ran ein newidiadau polisi uchelgeisiol.

"Fe fydd y cynlluniau hyn yn cynorthwyo i hybu marchnad swyddi decach, system addysg ac hyfforddiant tecach, a sicrhau cyfleon iechyd mwy cyfartal."

Pynciau cysylltiedig