Llywodraeth yn ehangu Mis Hanes Pobl Dduon i flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraeth fod protestiadau diweddar "wedi tynnu sylw at yr angen i addysgu pobl, ac i bobl fod yn ymwybodol o hanes pobl dduon"

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i bobl Cymru wrando a dysgu gan hanes a threftadaeth lleiafrifoedd ethnig.

Ar ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch Hanes Pobl Dduon Cymru 365, fydd yn dathlu cyfraniad lleiafrifoedd ethnig am flwyddyn gyfan.

Fe wnaeth prif chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt hefyd gyhoeddi bod £40,000 o gyllid yn cael ei fuddsoddi i helpu Race Council Cymru "addysgu pobl a hybu ymwybyddiaeth o hanes pobl dduon yng Nghymru".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i "gynyddu momentwm yr ymgyrch tuag at Gymru sy'n rhydd rhag camwahaniaethu ac anghydraddoldeb".

'Cam cadarnhaol iawn'

Dywedodd Ms Hutt: "Mae ehangu Mis Hanes Pobl Dduon i Flwyddyn Hanes Pobl Dduon ar gyfer 2020-21 yn gam cadarnhaol iawn.

"Yma yng Nghymru, mae ein hanes cyfoethog yn seiliedig ar wahaniaeth ac amrywiaeth.

"Bydd Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn helpu i rannu profiad a threftadaeth ein cymdeithasau amlddiwylliannol, a dathlu'r cyfraniadau a wneir yng Nghymru gan gymunedau du."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymgyrch Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn cael ei gynnal nes Hydref 2021

Ychwanegodd Ms Hutt bod adroddiad diweddar wedi dangos fod "Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru yn hanesyddol wedi dioddef anghydraddoldebau sydd wedi'u hen sefydlu".

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, wedi addo "sicrhau newid systemig a chynaliadwy i'n cymdeithas".

"Drwy gydweithio ag arweinwyr ac awdurdodau BAME, byddaf yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol cyn diwedd tymor y Senedd hon, er mwyn gweithredu a hyrwyddo newid gwirioneddol er budd pawb," meddai.

Adolygu'r cwricwlwm

Mae'r Gweinidog Addysg hefyd wedi dweud y bydd gweithgor sydd wedi'i greu i adolygu'r adnoddau dysgu sydd ar gael sy'n ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau BAME yn cyhoeddi awgrymiadau ar gyfer y cwricwlwm newydd cyn diwedd yr hydref.

Bydd adroddiad terfynol y gweithgor yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Dywedodd Kirsty Williams bod y gweithgor "mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith".

"Bydd y gweithgor hefyd yn cyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon, a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu pwysig iawn hwn," meddai.