Ffermwyr dan bwysau ar ôl 'llanast llwyr' newid treth etifeddiaeth
- Cyhoeddwyd
Roedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU am newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr yn "llanast llwyr", yn ôl un amaethwr yn y gorllewin.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddan nhw'n codi treth o 20% ar eiddo amaethyddol sydd werth dros £1m.
Mae'r llywodraeth wedi awgrymu y bydd lwfansau treth ychwanegol yn berthnasol i rai unigolion.
Ond dywedodd Anwen Hughes, sy'n ffermio yng Ngheredigion, fod y cyhoeddiad wedi creu pryder mawr i ffermwyr.
Dywedodd y Trysorlys mai dim ond 500 o geisiadau fydd yn cael eu heffeithio yn flynyddol ar draws Prydain a gall cwpl sydd yn ffermio drosglwyddo gwerth £3m heb dalu treth etifeddiaeth.
Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r dreth etifeddiaeth ar gyfer eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2026.
Bydd ffermydd sydd werth mwy na £1m yn wynebu cyfradd treth etifeddiaeth o 20% - hanner y gyfradd arferol o 40%.
Un sy'n pryderu a fydd ei fferm deuluol yn cael ei heffeithio ydy Anwen Hughes, sy'n ffermio ar 140-erw ger Llanarth gyda'i gŵr a'u phedwar o blant.
Mae'r tir yn cynnwys fferm Bryngido, ond mae Anwen hefyd yn ffermio ar y cyd gyda'i mam ar fferm arall, ac mae ei mab nawr yn rhentu hwnnw.
"Mi fydda i yn etifeddu hwnnw pan fydd rhywbeth yn digwydd i Mam," meddai.
"Felly pan 'da ni'n rhoi y cwpl lot at ei gilydd, dyna dros filiwn sydd yn mynd i greu ffwdan a shwd ni'n mynd i rannu popeth allan.
"Ni wedi edrych ar y seven-year rule ond dyw hwnna ddim yn ffafriol oherwydd byddai Mam yn gorfod talu rhent llawn i ni."
Ers iddo gael ei gyflwyno yn 1984, mae rhyddhad eiddo amaethyddol (APR), wedi caniatáu i dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau neu fagu anifeiliaid - yn ogystal ag adeiladau fferm, bythynnod a thai – gael eu heithrio rhag treth etifeddiaeth.
Does gan y Trysorlys ddim amcangyfrif o'r effaith ar ffermydd yng Nghymru ond maen nhw'n rhagweld y bydd 2,000 o ystadau ar draws y DU yn cael eu heffeithio o 2026-27 ymlaen, gyda tua 500 o'r rheiny'n hawlio rhyddhad eiddo amaethyddol.
Mae Anwen yn teimlo bod yna ddiffyg eglurder wedi bod wrth gyhoeddi'r newidiadau i dreth etifeddiaeth ar gyfer tir amaethyddol, sydd wedi cyfrannu at ansicrwydd ymhlith ffermwyr.
"Roedd e'n llanast llwyr. Llanast llwyr, shwd gath e ei gyhoeddi," meddai.
"Fel wedes i, [doedd] dim rhybudd. Mae e wedi creu pryder mawr i ffermwyr."
Yn ôl Rachel Evans, Cyfarwyddwr y Cynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, mae hi yn gweld ffermwyr yn dioddef yn sgil poen meddwl am y dreth etifeddiaeth.
"Mae hyn yn un ergyd ar ôl y llall," meddai.
"Mae'r dreth etifeddiaeth wedi bod yn knock arall ac maen nhw yn becso am eu dyfodol a dyfodol eu plant nhw a dyfodol y ffarm deuluol.
"Mae pobl yn stryglo i fod yn hollol onest. Mae pawb yn teimlo bod popeth yn digwydd i gefn gwlad yn hytrach na'r llywodraeth yn gwneud rhywbeth dros gefn gwlad.
"Maen nhw'n teimlo yr ergyd yn ddyddiol. S'dim un ffarmwr eisiau bod y genhedlaeth sydd yn methu y genhedlaeth nesaf."
Mae Rachel Evans wedi honni taw'r elusennau sydd yn cefnogi ffermwyr fydd nawr yn gorfod ysgwyddo'r baich o ymdopi gyda sgil effeithiau'r newidiadau.
"Mae'r elusennau dan bwyse achos nhw sydd yn gorfod cario pwyse polisïau mae'r llywodraeth yn eu creu a dyw hynny ddim yn fair."
Yn ôl Wyn Thomas, rheolwr elusen Tir Dewi, sy'n cefnogi ffermwyr, fe ddaw'r cyhoeddiad ar ben pryderon eraill.
"Mae'r gaeaf eleni yn un anodd achos dyma'r gaeaf cyntaf gyda'r NVZ ac yn y blaen ac mae hwn yn brofiad newydd ac yn bryder ychwanegol," meddai.
Ychwanegodd fod yna bryder ehangach am yr effaith ar yr economi wledig.
"Os nag oes arian gan y ffarmwr, does dim arian yng nghefn gwlad. Mae'n ofid i ni gyd," meddai.
"Os ydy amaethyddiaeth yn dioddef, mae cefn gwlad Cymru yn mynd i ddioddef yn enbyd."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio ar draws Prydain, ac mae yna dwll ariannol o £22 biliwn sydd wedi cael ei etifeddu o'r llywodraeth flaenorol.
"Roedd 40% o ryddhad eiddo amaethyddol yn cael ei hawlio gan y 7% cyfoethocaf, ac mae'n rhaid cymryd y penderfyniad anodd i sicrhau bod y APR yn fforddiadwy yn ariannol.
"Fe fydd hyn yn effeithio ar tua 500 o geisiadau (ar draws Prydain) y flwyddyn.
"Fe all cyplau sydd yn ffermio drosglwyddo hyd at £3m heb dalu treth etifeddiaeth. Dyma ffordd deg a chytbwys o ymdrin â'r sefyllfa."