Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth dynes, 25
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi pledio’n euog i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ar ôl i ddynes ifanc farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful.
Roedd Demi Mabbitt, 25, yn rhan o wrthdrawiad un cerbyd ar Heol Abertawe ym Merthyr Tudful am tua 23:45 ar 5 Ebrill.
Bu farw o’i hanafiadau wythnos yn ddiweddarach, ar 12 Ebrill.
Ddydd Gwener, yn Llys y Goron Merthyr Tudful fe wnaeth Cameron Jones, 29, bledio’n euog i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Fe blediodd Mr Jones yn euog hefyd i gyhuddiad o achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
Mae’n dal i wynebu dau gyhuddiad arall, o beidio â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd, ac o beidio ag adrodd am wrthdrawiad ffordd.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 21 Mehefin, gyda’r barnwr Tracey Lloyd-Clarke yn ei rybuddio y bydd yn wynebu “dedfryd o garchar yn syth” ar ôl pledio’n euog i “droseddau difrifol”.
Mewn teyrnged wedi ei marwolaeth dywedodd teulu Ms Mabbitt, o Aberfan, ei bod yn “ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither hyfryd”.
“Roedd hi’n enaid annwyl, addfwyn fyddai’n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un,” meddai’r teulu.