Arestio dyn wrth ymchwilio i farwolaeth menyw, 25

Demi MabbittFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Demi Mabbitt yn dilyn gwrthdrawiad ar 5 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth menyw 25 oed yn dilyn gwrthdrawiad car yn ardal Merthyr Tudful wedi arestio dyn 29 oed.

Cafodd Demi Mabbitt o Aberfan ei disgrifio fel yr "enaid mwyaf addfwyn a charedig" yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Abertawe ar 5 Ebrill.

Un car oedd yn y gwrthdrawiad - Audi S3 gwyn - a oedd yn teithio o ganolfan siopa Trago Mills i gyfeiriad yr A465.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod y dyn yn y ddalfa ym Merthyr Tudful ac yn cael ei holi gan swyddogion.

Ar ôl ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Mabbitt ei bod yn "ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither wych".

"Hi oedd yr enaid mwyaf addfwyn a charedig a fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un", ychwanegodd y teulu.

"Hi oedd y glud a oedd yn glynu ein teulu gyda'i gilydd ac roedd hi’n ymladd hyd y diwedd."

Pynciau cysylltiedig