Dwy ddynes wedi marw ar ôl disgyn ym mynyddoedd Eryri

Glyder fachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dynes ar ôl syrthio ar fynydd Glyder Fach yn gynharach yn y mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes wedi marw ar ôl disgyn wrth gerdded ar fynyddoedd Eryri.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod wedi eu galw i ddau ddigwyddiad o fewn dyddiau i'w gilydd yn ddiweddar.

Ar 16 Chwefror, fe lithrodd dynes ar ddarn o wair a syrthio tua 10 medr wrth gerdded i lawr Glyder Fach.

Bu farw er gwaethaf ymdrechion ffrind - a gafodd ei anafu yn y digwyddiad - yr ambiwlans awyr a thimau achub mynydd i'w hachub.

Ar 22 Chwefror, fe ddisgynnodd dynes 20 medr i dir serth ar fynydd Tryfan.

Fe wnaeth cerddwyr a oedd yn mynd heibio, timau ambiwlans a thimau achub mynydd ymateb i'r digwyddiad, ond bu farw o ganlyniad i'w hanafiadau.