Galw am ailagor pont yn Nhrefynwy

- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Trefynwy yn galw am ailagor Pont Inglis sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac sydd wedi ei chau ers mis Medi oherwydd pryderon am ei diogelwch.
Mae Cyngor Sir Fynwy, yr Aelod Seneddol lleol ynghyd ag aelodau'r gymuned yn galw am weithredu i'w hailagor.
Yn ôl Y Weinyddiaeth Amddiffyn maen nhw'n "cydweithio â Chyngor Sir Fynwy" ac mae'r "cynllun atgyweirio wedi ei gymeradwyo".
Dywed y Cynghorydd Emma Bryn bod cau'r bont yn "golygu taith o filltir ychwanegol i bobl gerdded drwy'r dre ar hyd palmant cul".
'Rhwystr anferth'
"Mae lot fwy o bobl yn gyrru lle roedden nhw'n seiclo neu'n cerdded o'r blaen, felly mae yna lot yn fwy o draffig yn y dre. Ac ma' pobl ddim yn cael y cyfle i gadw'n heini chwaith," meddai'r Cynghorydd Emma Bryn.
"Ni yn gobeithio y bydd yr MOD yn ffeindio'r arian a'i hailagor gan fod y gymuned yn becso lot amdano fe."
Mae'r bont yn cysylltu'r gymuned hefyd â chaeau chwarae Vauxhall ynghyd â chyfleusterau eraill.

Mae peidio cael y bont yn rhwystr anferth, medd Stuart Ross
"Mae'n rhwystr anferth i fy mywyd. Dyma oedd fy nrws i i gefn gwlad," meddai Stuart Ross, sydd mewn cadair olwyn.
"Mae'r ysbyty cymunedol yr ochr arall i'r bont a chanolfan gymunedol sydd â dosbarthiadau ar gyfer popeth."
Does dim llawer o'r math yma o bontydd dal mewn bodolaeth, yn ôl haneswyr.
Fe gafodd pontydd Inglis eu defnyddio gan Brydain yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf gan eu bod yn hawdd i'w codi ac yn gadarn.
Cafodd yr un yma ei chodi yn Nhrefnwy ym 1931 ac fe gafodd gwaith ei wneud arni ym 1988.
'Mae'n gydbwysedd anodd'
Gyda'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer wedi amlinellu cynlluniau i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027, mae'n dalcen caled yn ôl yr Aelod Seneddol lleol.
"Yn y pen draw, mae'n anodd iawn achos dwi'n gwybod bod rhaid i'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn meddwl am ein hamddiffyn," meddai Catherine Fookes AS.
"Mae'r bont hon yn eiddo i'r MOD ac mae gyda nhw flaenoriaethau mawr o ran gwariant ar bethau milwrol rheng flaen - edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd.
"Dydw i ddim yn meddwl eu bod yn anghofio [am gymunedau] ond mae'n gydbwysedd anodd iawn rhwng gwario'r arian ar amddiffyn rheng flaen neu a ydych chi'n gwario'r arian ar seilwaith lleol.
"Byddwn i'n dadlau bod isadeiledd lleol yr un mor bwysig â phethau eraill."
Yn ôl Cyngor Sir Fynwy maen nhw wedi cysylltu â'r Weinyddiaeth Amddiffyn i weithredu.
Dywed Y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw'n "cydweithio â Chyngor Sir Fynwy" a bod "y cynllun atgyweirio wedi ei gymeradwyo".
Maen nhw hefyd yn "ymddiheuro am yr anghyfleustra sydd wedi ei achosi i'r gymuned leol", ond yn dweud mai diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf.