Y freuddwyd o greu 'Cymru fach' dros y môr yn 1616

Map o ddechrau'r 17eg Ganrif yn dangos Newfoundland ac arfordir Gogledd America
- Cyhoeddwyd
Ymhell cyn i'r Mimosa gychwyn ar ei thaith i Batagonia roedd yna ymdrech gynharach i sefydlu 'Cymru newydd' dros y môr sydd bron wedi mynd yn angof, a hynny mor bell yn ôl ag 1616.
Breuddwyd William Vaughan o Sir Gaerfyrddin oedd creu gwladfa newydd Cambriol yn Newfoundland oddi ar arfordir dwyreiniol Canada.
Ystyr Cambriol yw Cymru fach mewn Lladin.
Un o feibion ystâd y Gellir Aur oedd Syr William Vaughan ac roedd yn gyfreithiwr, awdur, bardd ac ysgolhaig.
Roedd wedi cael ei addysgu yn Rhydychen a theithio gryn dipyn.
Nôl adref yng Nghymru roedd yn gweld effaith tlodi ar bobl ei ardal ac yn poeni am sefyllfa economaidd y wlad yn gyffredinol.
Mae'r Bywgraffiadur Cymraeg yn nodi iddo brynu tir gan y Company of Adventurers to Newfoundland ac anfon y criw bach cyntaf o ymsefydlwyr yno, ar ei gost ei hun, yn 1616-17.
Roedd y tir a brynodd yn cynnwys hanner isaf penrhyn Avalon yn nwyrain ynys Newfoundland, ardal o tua chwarter maint Cymru.

Dim ond ardal Trepassey oedd ar ôl o dir 'Cambriol' erbyn y diwedd
Roedd hwn yn gyfnod pan roedd gwledydd Ewrop i gyd yn chwilio am diroedd 'newydd' i ehangu a chyfoethogi eu hymerodraethau a'r sylw i gyd ar Newfoundland ar y pryd oherwydd yr holl bysgod oedd yn y môr o'i gwmpas.
Roedd hefyd yn hawdd cyrraedd yno o orllewin Ewrop a physgotwyr masnachol o Ffrainc, Gwlad y Basg, Sbaen, Portiwgal a Phrydain yno'n rheolaidd yn cystadlu am y tunelli o benfras oedd i'w cael yno a morfilod hefyd, oedd yn cael eu lladd am eu holew.
Y brenin Harri VII oedd wedi bod mor hyf â galw'r lle yn 'New Found Land' ar ôl i'w asiant John Cabot lanio yno yn 1497; hawliodd coron Lloegr yr ynys fel rhan o'i hymerodraeth yn 1583.
Wrth gwrs, roedd pobl frodorol wedi byw yno ers milenia yn barod a mudwyr eraill wedi mynd a dod.
Oer a diog
Mae'n debyg nad oedd y criw cyntaf o wladychwyr William Vaughan wedi eu paratoi'n dda ar gyfer yr amodau yn Newfoundland ac fe dreulion nhw'r gaeaf cyntaf yn harbwr Aquaforte yn rhynnu mewn cytiau pren oedd wedi eu hadeiladu ar gyfer y pysgotwyr mudol oedd yn dod yno yn yr haf.
Anfonodd William Vaughan reolwr pysgodfeydd profiadol o'r enw Richard Whitbourne yno gyda chyflenwadau a rhagor o wladychwyr, a'i benodi'n llywodraethwr.
Ar ôl cyrraedd ceisiodd Whitbourne roi trefn ar y trefedigaethwyr a'u symud i leoliad gwell yn Renews.
Mewn llythyr nôl at Vaughan roedd yn feirniadol iawn o drigolion newydd Cambriol ac yn eu cyhuddo o fod yn ddiog:
"For certainly I have already seen and known by experience that the desired plantation can never be made beneficial by such idle fellows as I found there in 1618... which people had remained there a whole yeere before I came theare or knew any or them and never applied themselves to any commendable thing, or not so much as to make themselves a house to lodge in, but lay in such cold and simple rooms all the winter as the fisherman had formerly built there for their necessary occasions the yeere before those men arrived there. "

Halltu a sychu penfras yn Newfoundland. Engrafiad o 1738.
Nid yr oerfel a'r diffyg adnoddau oedd yr unig beth yn eu herbyn; roedd yna ymosodiadau hefyd gan bysgotwyr gelyniaethus heb sôn am fôr-ladron hefyd.
Y nod oedd sefydlu planhigfeydd ar y tir ond erbyn 1619 criw bach o ddim ond chwech ohonynt oedd ar ôl yn Renews.
Gwerthodd Vaughan y rhan fwyaf o'r tir roedd wedi ei brynu i ddatblygwyr eraill, gan ddal gafael ar Trepassy ar arfordir de-ddwyrain y penrhyn.
Mae yna ansicrwydd a wnaeth Vaughan y daith i Newfoundland ei hun. Yn ôl rhai ffynonellau fe aeth yno yn 1622, treulio amser yno ac ysgrifennu am y wlad newydd a'i phosibiliadau yn ei lyfr The Golden Fleece.
Ond dywed y Bywgraffiadur Cymreig a ffynonellau eraill bod Vaughan wedi methu a mynd yno o gwbl a bod yr holl fenter wedi methu oherwydd 'gerwinder y tywydd' a 'rhesymau eraill'.
Mae rhai ffynonellau'n dweud bod nifer fach iawn o'r Cymry wedi dal eu tir ym Mae Trepassy tan tua 1624 a hyd yn oed yn hwyrach.
Mae'n rhyfeddol meddwl fod yr ymgais yma i greu trefedigaeth Cambriol yn nes at gyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr 1400-1415 nag at gyfnod sefydlu'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865.

Engrafiad o Barti Ddu a'i griw tua 1724 gan Benjamin Cole
Ganrif ar ôl i freuddwyd William Vaughan am drefedigaeth yno fynd i ebargofiant fe hwyliodd Cymro arall i harbwr Trepassey, y môr leidr Barti Ddu o Gasnewydd Bach, Sir Benfro.
Gyda'i faneri du yn chwifio a'i enw drwg yn ei ragflaenu cododd fraw ar holl gapteiniaid y llongau masnach a'r cychod pysgota oedd wedi angori yno a chymryd rheolaeth o'r harbwr a phopeth oedd ynddi yn ddidrafferth cyn dwyn un o'r llongau a hwylio i ffwrdd.
Oddi yma hefyd y cychwynnodd Amelia Earhart ei thaith gyntaf mewn awyren dros yr Iwerydd yn 1928 gan lanio, fel mae'n digwydd, ym Mhorth Tywyn sydd ond tua 10 milltir o fan claddu William Vaughan yn Llangyndeyrn.
Heb bresenoldeb yn y drefedigaeth newydd, collodd William Vaughan ei afael ar ei diroedd i gyd yn Newfoundland yn y diwedd a diflannodd yr hanes i niwl amser.
Daeth straeon am ymdrechion i ddechrau 'Cymru newydd' yng ngogledd America, Brasil a Phatagonia yn hanesion llawer mwy cyfarwydd.
Ond yn 2013 cafodd ymddiriedolaeth o'r enw The Sir William Vaughan Trust ei sefydlu yn Newfoundland i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymdrechon Sir William Vaughan yn natblygiad cynnar y dalaith sydd fel arfer yn cael ei chysylltu â mudwyr o Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Ffrainc.
Mae posibilrwydd y gallai mwy o wybodaeth am y bennod yma yn hanes Cymru ddod i'r fei eto ac y cawn wybod pwy oedd y Cymry a hwyliodd dros yr Iwerydd i Newfoundland yn 1617 tybed?
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd27 Medi 2021