Ruth Ellis: Y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ruth EllisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ruth Ellis

Yn 1955 Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain. Roedd hi wedi ei chael yn euog o lofruddio ei chariad.

Mae cyfres ddrama deledu newydd wedi cychwyn ar ITV o'r enw A Cruel Love - The Ruth Ellis Story, sy'n sôn am ei bywyd hi.

Roedd hi'n Gymraes a chafodd hi ei geni yn y Rhyl yn 1926. Roedd ei mam, Elisabeta, o Wlad Belg, a'i thad, Arthur Hornby, yn gerddor o Fanceinion. Symudodd y teulu i Lundain yn 1941.

Yn 1953, roedd Ruth Ellis yn gweithio fel rheolwraig clwb nos pan wnaeth hi gyfarfod David Blakely, oedd yn dod o'r Amwythig.

Cafodd y ddau berthynas, ond erbyn dechrau 1955, roedd David Blakely yn dechrau colli diddordeb.

Ar 10 Ebrill 1955, saethodd Ruth ei chariad yn farw tu allan i dafarn Magdala yn Llundain.

Wedi ei chael yn euog o lofruddiaeth yn yr Old Bailey yn Llundain, cafodd Ruth Ellis ddedfryd o farwolaeth.

Protestio

Roedd nifer o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn i Ruth Ellis beidio cael y gosb eithaf ond nid oedd yn llwyddiant.

Bu rhaid i bennaeth y carchar i alw am gymorth ychwanegol wrth yr heddlu pan ddaeth torf o 500 i brotestio tu allan i'r carchar.

Enw'r dyn oedd wedi dienyddio Ruth Ellis oedd Albert Pierrepoint o Preston, Swydd Gaerhirfryn.

Mae hi'n enwog am fod y fenyw olaf i gael y gosb eithaf ym Mhrydain ac mae rhai'n dweud fod ei hachos wedi helpu i arwain at ddiwedd i'r gosb.

Yn 1965 daeth diwedd i'r gosb eithaf fel cosb am lofruddio ym Mhrydain.

Geirfa

Crogi / to hang

Euog / guilty

Llofruddio / to murder

Cerddor / musician

Manceinion / Manchester

Rheolwraig clwb nos / nightclub manager

Yr Amwythig / Shrewsbury

Perthynas / relationship

Colli diddordeb / to lose interest

Saethodd / shot

Dedfryd / sentence

Marwolaeth / death

Arwyddo / to sign

Deiseb / petition

Y gosb eithaf / capital punishment

Torf / crowd

Dienyddio / to execute

Achos / case

Cosb / punishment

Rhaglen ddogfen / documentary