Y gofalwr ifanc sydd eisiau 'newid y byd i bobl fel fi'

Mae Ffion Haf Scott (dde) yn gofalu am ei mam ers ei bod yn bedair oed
- Cyhoeddwyd
"Newid y byd a'r wlad i bobl fel fi."
Dyma uchelgais un disgybl chweched dosbarth o ardal Wrecsam sydd wedi gofalu am ei mam ers ei bod yn bedair oed.
Ymhlith cyfrifoldebau Ffion Haf Scott fel gofalwr mae gwneud bwyd i'w mam cyn mynd am yr ysgol, a sicrhau ei bod hi'n derbyn ei meddyginiaeth.
Weithiau mae'n golygu gorfod gadael yr ysgol yn gynnar, neu beidio mynychu o gwbl ar adegau - os ydy ei mam yn cael diwrnod drwg o ran ei hiechyd.
Ond wrth siarad ar Dros Frecwast, soniodd Ffion sut nad yw hi am i'w chyfrifoldebau fel gofalwr ifanc ei dal hi'n ôl, a hithau'n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ac yn gobeithio mynd i brifysgol.

"Newid pethau i'r genhedlaeth nesaf o ofalwyr ifanc," ydy nod Ffion
Er yr effaith ar ei bywyd, dywedodd Ffion fod y gwaith gofalu wedi helpu i'w siapio fel person.
"Dwi'n meddwl mae o 'di cael effaith ar sut dwi 'di byw fy mywyd, ond mae o hefyd wedi helpu i adeiladu character fi fel person, so dwi'n hollol gwerthfawrogi o.
"O ran dydd i ddydd, ma' rôl gofalu fi'n newid.
"Gall fod yn pethau fel rhoi meddyginiaeth, neu codi Mam i fyny os yw hi wedi pasio allan. Pethau really anodd."
Mae ei mam wedi cael canser a strôc yn y gorffennol - ac yn dal i ddioddef cymhlethdodau a sgil effeithiau o ganlyniad, gan gynnwys hefo'i hiechyd meddwl.
"Mae Mam yn dioddef o problemau iechyd meddwl, felly mae o'n gallu bod yn 'chydig bach o hit and miss - yn dibynnu ar y bore."
Mae chwaer Ffion hefyd yn delio gyda phroblemau iechyd, ond mae hi'n gallu bod yn gymorth gyda'u mam ar adegau, meddai.
"Dwi'n really ffodus i gael hwnna though, achos dwi'n gwybod dydy hynna ddim yr un sefyllfa a pawb arall – felly dwi'n really lwcus."

Mae Ffion yn astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch mewn Cymraeg, Iechyd a Gofal, a Gwasanaethau Cyhoeddus
Roedd Ffion yn siarad ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, sy'n ceisio tynnu sylw at waith gofalwyr ifanc, a'u helpu i gael seibiant o'u cyfrifoldebau.
Fel llawer o ofalwyr ifanc, dywedodd Ffion bod y llwyth gwaith sydd ganddi adref yn cael effaith ar ei haddysg.
Yn aml, meddai, "dwi'n hwyr neu methu neud gwaith. Neu just methu cyrraedd yr un standards a pawb arall".
Mae hi hefyd yn poeni a fydd gorffen ei hastudiaethau'n bosib, oherwydd y gofynion ychwnaegol arni.
"Ar y funud mae'n eithaf anodd - dwi 'di bod yn edrych os ydy gorffen fy lefel A i actually yn bosib, oherwydd y struggle o trio balancio gwaith ac bywyd adre fi."
Er hynny, dydy Ffion heb roi'r ffidil yn y to, a'i gobaith ydy parhau â'i haddysg.
"Dwi'n gobeithio trio mynd i brifysgol - ond mae'n mynd i fod yn brysur. Yn anffodus mae Mam wedi cael flare up, o ran pethau mae hi gyda sy'n bod 'da hi.
"Ond dwi'n meddwl fydd o'n iawn, a dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol."
'Newid pethau i'r genhedlaeth nesaf'
Mae angen mwy o gefnogaeth i ofalwyr ifanc fel hi, meddai Ffion.
"Ond mae hwnna yn rhywbeth da' ni angen edrych arno, ac ymladd tuag at i'r dyfodol dwi'n meddwl."
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rôl gofalwyr di-dâl yn hanfodol, a'u bod wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth ar gael iddynt.
Dywedodd Ffion bod newid pethau i bobl eraill yn un rheswm iddi ymgeisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.
"Mae'n really neis, dwi'n edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf. I fi mae o just am trio newid y byd a'r wlad, i bobl fel fi.
"Dwi byth eisiau neb fynd trwy'r un pethau dwi wedi. Felly mae o just am newid pethau i'r genhedlaeth nesaf o gofalwyr ifanc."

Ffion a Llywydd y Senedd, Elin Jones, yn ei chyfarfod siambr cyntaf
Pwysleisiodd Ffion bod cael cymorth allanol yn hanfodol i bobl yn ei sefyllfa fi - "neu fyswn i ddim yma o gwbl o ran achievements, nac o ran byw".
Gyda sefydliadau fel hyn y mae hi fel arfer yn cael cyfle i ymlacio, meddai.
"Da' ni'n mynd ar trips a pethau. So yn ddiweddar da' ni wedi mynd ar trip i Dunfield House am ychydig o ddiwrnodau."
Roedd y cyfle i dreulio amser gyda ffrindiau yn arbennig, meddai am y daith oedd wedi ei threfnu gan Ymddiriedolwyr y Gofalwyr.
"O'n i just ddim yn meddwl am ddim byd o gwbl - o'n i just yn chillio allan, mynd ar taith neu nofio neu chwarae gemau, a just yn cael amser amazing."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018