Rhaglen Cofio: 19 mlynedd o dwrio yn yr archif

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl 19 mlynedd a 950 o benodau, mae'r gyfres Cofio yn dod i ben ar BBC Radio Cymru; rhaglen oedd yn twrio drwy'r archif am ambell i berl, ac yn cael sgyrsiau euraidd gyda gwestai oedd â stori ddiddorol.

Dyma rai o'r clipiau gorau a roddodd gipolwg i ni ar y gorffennol:

Disgrifiad,

Ellen Evans yn cofio suddo'r Titanic a'r Lusitania a Diwygiad Evan Roberts

Disgrifiad,

Atgofion y diweddar Aled Glynne Davies, cyn-olygydd BBC Radio Cymru, am y syniad gwreiddiol tu ôl i Cofio yn 2006

Disgrifiad,

Tybed beth oedd hoff emyn Ryan Davies? Ei fab Arwyn Davies fu'n hel atgofion amdano yn arwain ei gymanfa ganu gyntaf yng nghwmni'r cyn blismon o Gaerfyrddin Ronw James

Disgrifiad,

Sgwrs ag un o actorion gwreiddiol Pobol y Cwm, Lisabeth Miles (Megan) i ddathlu 40 mlwyddiant y gyfres yn 2015

Disgrifiad,

Alun Williams yn holi dau o Fois y Cilie sef Alun a Dai yn y 60au am eu brawd John Ceredigion Jones

Disgrifiad,

Arthur Rowlands yn sgwrsio gyda Hywel Gwynfryn - cafodd Arthur ei saethu a'i ddallu pan oedd yn gweithio fel plismon

Disgrifiad,

Gwilym Owen yn holi Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr yn 1981

Disgrifiad,

Yr awdur T Llew Jones yn cael ei holi gan Mary Middleton ar raglen Heddiw yn 1966

Disgrifiad,

Ioan Gruffudd yn cofio portreadu Harold Lowe ar ffilm Titanic

Disgrifiad,

Nansi Richards yn cael ei holi gan Nansi Powys yn ei chartref ym Mhenybont Fawr yn 1974

Disgrifiad,

Yr wythwr Hefin Jenkins yn sôn am chwarae yn y gêm enwog lle trechodd Llanelli y Crysau Duon, 9-3 yn 1972

Disgrifiad,

Atgofion pedair a weithiodd fel Land Girls yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Disgrifiad,

Dyfrig Roberts sy'n trafod hanes Meddygon Esgyrn Môn

Disgrifiad,

Dylanwad llên gwerin a thraddodiadau Cymreig ar y Swynwraig Mhara Starling

Disgrifiad,

Yn 1967, holodd Mary Middleton Mr Morgan oedd yn creu ei frethyn ei hun

Disgrifiad,

Mike Reynolds yn cofio mentro o'r Hendy draw i Awstralia am £10

Disgrifiad,

Y bardd Meirion MacIntyre Huws yn sgwrsio am ysgrifennu'r gân, Yma Wyf Innau I Fod

Disgrifiad,

Prys Morgan yn holi dau - Tom Jones a Jack Roberts - a aeth i Sbaen i ymladd yn y Rhyfel Cartref

Disgrifiad,

Bryn Thomas yn sgwrsio gyda Beti Rhys am ei thaith gyntaf, a hynny ar fws i India yn 1969