Pam fod pobl ifanc Cymru yn troi at y Saesneg?

merched ar iard ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ers i ddata cyfrifiad 2021 gael ei gyhoeddi, a oedd yn dangos cwymp yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, mae cryn drafod wedi bod ynglŷn â sut mae mesur defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau.

Fe gafodd y drafodaeth yma ergyd ychwanegol yn ddiweddar pan gyhoeddwyd canlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (ABB) (2025), dolen allanol a ddangosodd cwymp o 1.6% yn y nifer o bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru ers 2024.

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges o Brifysgol Bangor sy'n dadansoddi'r canlyniadau i BBC Cymru Fyw, gan ystyried defnydd pobl ifanc o'r Gymraeg. Mae'r ddau yn arbenigo mewn polisi iaith a chynllunio ieithyddol:

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges Ffynhonnell y llun, Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges
Disgrifiad o’r llun,

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges

Mae ffigyrau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn destun gofid i unrhyw un yng Nghymru sy'n ymwneud â chynllunio ieithyddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'i tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond ai niferoedd siaradwyr iaith yw'r prif ystyriaeth?

Bywyd bob dydd

Mae strategaeth iaith Cymraeg 2050 yn blaenoriaethu mwy na nifer siaradwyr yn unig. Mae'r strategaeth yn pwysleisio patrymau defnydd iaith, gan gynnwys pa mor dda y gall unigolion siarad y Gymraeg, pa mor aml maent yn defnyddio'r iaith, ym mhle, pryd a gyda phwy.

Beth felly ydym yn gwybod am ddefnydd y Gymraeg mewn bywyd bob dydd?

Mae'r ABB yn rhoi darlun o batrymau defnydd iaith oedolion a phobl ifanc. Yn anffodus, prin yw'r newyddion da yma.

Mae yna gwymp amlwg yn y nifer sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol ym mhob categori oedran. Mae yna gwymp nodedig rhwng grwpiau oedran 3-15 ac 16-24 gyda'r defnydd iaith dyddiol yn haneru o 31.6% i 15.1% yn gyffredinol.

Gadael byd addysg

Mae'r grŵp oedran yma (16-24 oed) yn cynrychioli pobl ifanc sy'n camu allan o'r system addysg ac i'r byd ehangach. Mae ystadegau o'r fath yn codi cwestiynau am ddilyniant ieithyddol y bobl ifanc rhwng y system addysg a'r gymdeithas yn ehangach.

Er hynny, mae angen bod yn ofalus wrth ymdrin y data o'r arolwg gan fod newid wedi bod yn y dull o gasglu data, gall hyn yn rhannol esbonio'r cwymp. Fodd bynnag, mae hyn yn ddarllen anghyfforddus i lawer ohonom sy'n gweithio ym maes y Gymraeg.

Mae addysg cynnar yn hanfodol er mwyn hybu agwedd ffafriol at yr iaithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae addysg cynnar yn hanfodol er mwyn hybu agwedd ffafriol at yr iaith

Defnydd iaith pobl ifanc

Felly, beth sydd tu ôl i'r cwymp yn y ffigurau yma? Pam fod defnydd iaith yn cael ei haneru wrth i bobl ifanc symud i'r grŵp 16–24?

Mae'n bosib dadlau bod dylanwadu ar ddefnydd iaith yn faes sy'n fwy anodd i'w reoli, yn enwedig wrth i bobl ifanc gamu tu hwnt i'r system addysg orfodol neu ddylanwadau cartref.

Dyma gyfnod pan mae pobl ifanc yn camu fewn i'r byd ehangach ble mae dylanwadau newydd ar waith, er enghraifft diwylliant poblogaidd a'r byd digidol, a dylanwadau eu cymunedau lleol.

Mae hyn yn her i gynllunwyr ieithyddol fel Llywodraeth Cymru sy'n ceisio dylanwadu ar ddefnydd iaith unigolion a chymunedau.

'Croesffordd'

Mae'r gymuned yn groesffordd cynllunio ieithyddol lle mae nifer o elfennau gwahanol sy'n ddylanwadau ar ddefnydd iaith yn dod at ei gilydd – y teulu, addysg, gweithgareddau cymunedol a gweithleoedd.

Y sector addysg yw'r hawsaf i Lywodraeth Cymru ddylanwadu arno ond bydd hefyd angen meddwl ymhellach am ddefnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Nid Cymru yn unig sy'n delio gyda'r her yma.

Gwlad y Basg

Ar daith ymchwil diweddar i Wlad y Basg clywsom am heriau'r Basgiaid wrth iddynt geisio gwrthdroi'r arferiad ymysg yr ifanc i ddefnyddio Sbaeneg, ac nid y Fasgeg, yn gymdeithasol.

Dyma broblem ehangach felly sy'n ymwneud â normau ac arferion cymdeithasol, a statws, bri a phŵer un iaith dros y llall. Gall hyn arwain at shifft ieithyddol o un iaith i'r llall o fewn cymuned.

I ni yng Nghymru mae gan yr iaith Saesneg ddylanwad mawr ar ddefnydd iaith ac mae'n wir i ddweud bod hi'n anodd cystadlu gydag iaith ffasiwn a diwylliant poblogaidd, iaith technoleg a phlatfformau digidol yr oes gyfoes.

FflagiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Agweddau iaith

Mewn astudiaeth ddiweddar o agweddau siaradwyr Cymraeg tuag at y Gymraeg gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor, daethpwyd i'r casgliad mai siaradwyr Cymraeg a oedd wedi cael cryn dipyn o Gymraeg yn ystod oedran ysgol gynradd oedd â'r agweddau mwyaf ffafriol tuag at y Gymraeg.

Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar at feithrin agweddau ffafriol tuag at yr iaith Gymraeg, gan obeithio bod yr agweddau ffafriol hyn yn trosi i ddefnydd iaith gymunedol.

Er hynny, ydyn ni'n rhoi gormod o bwyslais ar y system i achub y Gymraeg?

Mae'n bosib dadlau bod angen cael nifer o gydrannau eraill yn eu lle, ac yn gweithio'n effeithiol, er mwyn sicrhau normaleiddio defnydd o'r Gymraeg.

KneecapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogrwydd y grŵp hip-hop Kneecap wedi arwain at fwy o sylw i'r iaith Wyddeleg

Sylfaen

Er mwyn ceisio annog defnydd iaith gan y bobl ifanc hyn, mae sawl maes posib y gallwn droi ein sylw tuag atynt. Yn gyntaf, mae rhaid sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael sylfaen ddigonol o Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar.

Wedi hynny, rhaid sicrhau bod digonedd o weithgareddau atyniadol ar eu cyfer iddynt barhau ar eu teithiau bywyd fel siaradwyr Cymraeg.

Meysydd allweddol

Mae yna sawl maes blaenoriaeth wrth geisio annog defnydd iaith gan bobl ifanc o fewn y gymdeithas ehangach. Mae creu cyfleoedd naturiol, anffurfiol i siarad Cymraeg yn hollbwysig wrth fagu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, a'i wneud yn norm o fywyd bob dydd.

Hamdden

Mae maes hamdden yn faes hollbwysig er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun anffurfiol a hwylus. Er hynny mae hamdden yn faes sy'n anodd ei reoleiddio gan fod nifer o glybiau a gweithgareddau yn rhai annibynnol.

Mae iaith hyfforddwyr yn hollbwysig wrth sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth chwarae pêl-droed neu ddysgu sut i nofio.

Mae sefydliadau fel yr Urdd a Mentrau Iaith yn bwysig wrth greu cyfleoedd a gofodau Cymraeg sy'n annog defnydd iaith Gymraeg. Fodd bynnag, cyfyng yw'r ddarpariaeth yma o gymharu â'r amrediad o brofiadau eraill sydd ar gael i bobl ifanc.

plantFfynhonnell y llun, Getty Images

Byd digidol

Mae presenoldeb y Gymraeg yn y byd digidol yn elfen bwysig arall o fywydau pobl ifanc. Rhaid hefyd sicrhau bod y Gymraeg yn iaith berthnasol a chyfoes i siaradwyr ifanc y Gymraeg yn y maes hwn.

Mae'n bosib dadlau bod cael cynnwys Cymraeg ar YouTube yn flaenoriaeth ac mae'n ddiddorol gweld bod S4C yn cynnig rhagor o'i chynnwys ar y platfform yma.

Ond beth am gynnwys mwy organaidd, fel dylanwadwyr Cymraeg sy'n creu cynnwys ar liwt eu hunain? Dyma fodelau rôl iaith Gymraeg yr oes ddigidol.

Tybed os oes angen cymryd ysbrydoliaeth o'r llwyddiannau sydd wedi bod i'r Gymraeg o ganlyniad i gerddoriaeth gyfoes?

Y dylanwadwr Ellis Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y dylanwadwr Ellis Lloyd Jones

Heriau

Rhan o'r her i ni yng Nghymru yw sicrhau bod ganddon ni ddigon o brofiadau, gweithgareddau a diwylliant atyniadol a pherthnasol i'w gynnig i bobl ifanc yn y Gymraeg.

Ynghlwm at hyn, rhaid cael trafodaeth gyhoeddus ystyrlon ynglŷn a pham y dylid defnyddio'r Gymraeg o fewn y gweithgareddau hyn, yn ogystal â mewn bywyd bob dydd ehangach.

Mae gan bawb rôl amlwg i'w chwarae yn y drafodaeth hynny – ond rhaid clywed gan y bobl ifanc eu hunain ynglŷn â'r ffordd i gynnwys y Gymraeg yn rhan o'u bywydau bob dydd.