Cofio Geraint Jarman: Teyrngedau'r ffans

- Cyhoeddwyd
Ar 3 Mawrth daeth y newyddion trist am farwolaeth Geraint Jarman.
Yn cael ei ystyried yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol yr iaith Gymraeg, mae'n cael ei gofio fel cyfansoddwr a chanwr rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy ein diwylliant.
Yma mae rhai o'i ffans a'i gyfoedion yn rhannu sut y cafodd y cerddor o'r brifddinas ddylanwad arnyn nhw:

Yn perfformio yn Tafwyl yn 2021
Meurig Rees
Mae'r casgliad cyfan ar y silffoedd yn y tŷ 'cw – y recordiau feinil a'r cryno-ddisgiau. O Gobaith Mawr y Ganrif hyd Cariad Cwantwm. Geiriau, alawon, curiadau a riffs sydd mor gyfarwydd 'rôl gwrando'n gyson arnynt dros ei yrfa o 50 o flynyddoedd.
Ond y sioeau byw yw'r cerrig milltir a gofiaf. O'r rafio a'r dawnsio gwyllt yn Dixieland Y Rhyl yn y 70au, nes bod Tich yn taro'i Hen Wlad fy Nhadau i gloi'r noson; cyffro byw y dorf, a cheisio'i stiwardio, mewn Pafiliwn gorlawn yng Nghorwen ddechrau'r 80au.
Yna wrth i Geraint ail-gydio yn y perfformio byw y noson wych yn Neuadd y Dre, Dinbych wythnos Steddfod 2013 a'r llawr yn bownsio; cyngerdd distawach i ni, griw o wrandawyr parchus hŷn, yn Chapter wrth lawnsio CD arall ddechrau 2015; siglo'n sidét i Geraint a'r band a'r gerddorfa yn Gig y Pafiliwn, Eisteddfod Caerdydd 2018; gwrando ag edmygedd ar ei set adeg Tafwyl 2021 ac yntau wedi cyrraedd oed yr addewid.

Roedd Geraint Jarman (ail res o'r cefn, trydydd o'r dde, mewn siwt lwyd) a Meurig Rees (drws nesaf iddo ar y dde, mewn crys gwyn) yn gyd-aelodau o Ysgol Sul Capel y Crwys, Heol y Crwys, Caerdydd - llun o 1962
 ninnau'n nabod ein gilydd ers 70 o flynyddoedd, trwy ein dyddiau ysgol, er i'n llwybrau wahanu, braf cael ambell sgwrs o dro i dro wrth daro ar ei draws ar gongl stryd, mewn tafarn, neu cyn iddo fentro i'r llwyfan.
Ond yn arbennig y sgwrs gynnes, hyfryd a gawsom 'rôl cyffro a balchder urddo Geraint Glan'rafon i'r Orsedd. Troi'r tracsiwt gwyrdd yn wisg werdd yn y Steddfod yn y Ddinas... ei ddinas o. Diwrnod i'r brenin!

Cafodd Geraint Jarman ei urddo i'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018
Gaynor Jones
1976 - Daeth Dad 'nôl ag albwm fel anrheg inni o Siop y Pentan, Caerfyrddin. Roedd e wedi clywed y gân Gobaith Mawr y Ganrif ar Radio Cymru a meddwl bydden ni blant yn hoffi cael y record.
Wel roedd e yn iawn!
Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad fy Nhadau, Gwesty Cymru, Fflamau'r Ddraig, Macsen, Diwrnod i'r Brenin... Un clasur ar ôl y llall a phob un yn torri cwys newydd, yn ffresh a dal yn fytholwyrdd.
Cafodd y sin roc Gymraeg ei gweddnewid gan y llanc gwallt cyrliog o ddinas Caerdydd. Tad bedydd Cŵl Cymru yn ei sbectol ddu yn cyflwyno elfennau rythmig newydd inni. A doedd dim un gig yn siomi.
Wrth chwarae y caneuon cynnar hynny wythnos diwethaf roedd y rythmau, geiriau, cyfraniad cerddorion gwych y Cynganeddwyr a chynhyrchu soffistigedig Tassano yn dal eu tir.

Poster gig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid yn 1979
John Morgan, chwarae bas yn Y Cynganeddwyr
'Nes i chwarae gyda Geraint o 1977 tan 1980. Ni oedd band Heather Jones, a drodd yn Y Cynganeddwyr, a bob hyn a hyn byddai Geraint yn dod mlaen i ganu cân. Roedd un, yn benodol, roedd y plant yn ei hoffi, sef Bourgeois Roc.
Dwi'n cofio fe'n dod mas – yn y Top Rank yn Abertawe dwi'n meddwl – a chanu Tacsi i'r Tywyllwch, ac roedd pawb yn gweiddi am fwy. Roedd Heather yn sefyll ar ochr y llwyfan, a dywedodd hi wrtha i wedyn fod dyn wedi dweud wrthi 'that's you finished then!' – roedd caneuon Geraint mor catchy.

Heather a'r band yn perfformio ar Twndish yn 1977 - (o'r chwith i'r dde) Tich Gwilym, Phil Mignaud, Heather Jones, Tommy Reilly, Geraint Jarman a John Morgan
Roedden ni'n chwarae post-punk a reggae. Fe oedd yr un i wir sylweddoli fod reggae a'r Gymraeg yn gweddu ei gilydd. Doedd rock'n'roll a'r Gymraeg ddim wir yn mynd achos fod y Gymraeg yn llifo a roc mor staccato.
Roedd flow reggae a'r Gymraeg yn amlwg, a dwi'n meddwl mai Geraint oedd yr un 'naeth 'nabod hynny. Roedd e'n gweithio a dyna 'naethon ni.

Negatif gwreiddiol y llun gafodd ei ddefnyddio ar glawr Tacsi i'r Tywyllwch
O'n i'n gweithio fel ffotograffydd a bob amser yn cario camera. Fi dynnodd y llun a dylunio cloriau pedwar o'i albyms – Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau, Gwesty Cymru a Fflamau'r Ddraig, a thynnu'r llun ar glawr Eilydd na Ddefnyddiwyd.

(o'r dde i'r chwith) Geraint Jarman, Cat Croxford, Simon Tassano a John Morgan
Y tro diwethaf 'nes i chwarae gyda nhw oedd ym Mhrifysgol Bangor yn 1980. Erbyn hynny o'n i'n gweithio yn Llundain, ac roedd rhaid i mi adael gwaith a chael trên syth lan i Fangor. Doedden ni ddim yn ymarfer – o'n i jest wedi troi lan ym Mangor yn cario gitâr.
Dwi'n cofio bod ar y llwyfan a phawb yn troi i edrych arna i achos fod gen i'r bariau cyntaf i un o'r caneuon... a doedd gen i ddim syniad beth oedd e! Tan iddo fe gicio mewn yn sydyn – 'nes i e braidd yn gyflym, medden nhw wedyn. Do'n i methu teithio'n ôl a 'mlaen felly 'nes i orfod stopio chwarae 'da fe.
Roedden ni wedi cwrdd gynta' ar 9 Tachwedd 1961, ac oedden ni yn yr un dosbarth tan Dosbarth 5, yn Cathays High School. Welis i e ddiwetha' yn angladd Tich yn 2005.
Ro'n i mor drist i glywed ei fod e wedi marw.

Canolfan y Mileniwm yn bownsio yn ystod Gig Mileniwm Eisteddfod Caerdydd 2018
Malcolm Morris
Dwi wedi gwrando ar gerddoriaeth pop Cymraeg ers y dyddiau cynnar, fel Geraint Jarman, Eliffant ac Edward H.
Penderfynodd fy nghefndryd a fi fynd i Eisteddfod Caernarfon yn 1979 – dwi'n meddwl falle mai dyma oedd y flwyddyn gyntaf roedd yr hynafion wedi gadael i gerddoriaeth bop fod ar y maes, sef Maes B bryd hynny.
O'n i'n byw ym Mae Colwyn a fy nghefndryd yn Wrecsam, a deithion ni draw yno i gampio ac wrth gwrs, i yfed rownd y tafarndai yng Nghaernarfon.
Dyma ni'n mynd i Twll yn Wal am ddiod ac o'n i'm yn gallu credu fod Geraint, Tich a Heather i gyd yna. 'Naethon nhw ein gwahodd ni i eistedd efo nhw, a gawson ni noswaith wych a sgwrs. Am bobl hyfryd.

Nik Samuel, drymiwr y band Crys
Roedd hi mor drist i glywed am farwolaeth un o gantorion, cyfansoddwyr, beirdd a chyflwynwyr gorau Cymru, Geraint Jarman.
Roedd Crys yn lwcus i chwarae nifer o gigs gyda fe yn yr 80au cynnar – y diwethaf oedd Tân y Ddraig yn Y Faenol, Bangor. Roedd e a'i fand yn fy atgoffa i o The Stranglers gyda dylanwadau reggae.
Roedd e bob amser yn canmol cerddorion eraill, ac yn hoffi egni Crys. Roedd e'n ddyn distaw ond roedd e bob amser yn gwneud amser i sgwrsio gyda'i fêt Tich am gitârs.
A nawr mae'r ddau wedi'n gadael ni yn anffodus. Mae 'na dipyn o fand Cymraeg yn ffurfio yn y cymylau nawr...

Carys Hughes-Jones
Cawsom gyfleoedd i weld bandiau Cymraeg o'r 70au hwyr 80au cynnar drwy waith fy mam a nhad yng Nghlwb Tan y Bont, Caernarfon.
Bob p'nawn Sadwrn byddai'r ddau yn gorfod mynd yno i lanhau ar ôl nos Wener brysur. I ni fel plant, odda ni wrth ein boddau yn chwarae hide and seek, ond fel o'n i'n mynd yn hŷn o'n i wrth fy modd yn gwrando ar y bandiau yn gwneud eu sound checks at y nos, grwpiau fel Edward H, Maffia Mr Huws ac wrth gwrs Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. O'n i wrth fy modd yn syth efo'u caneuon.
Y gân gyntaf dwi'n cofio'i chlywed oedd Gobaith Mawr y Ganrif. Cefais y casét, a dwi'n meddwl mod i 'di chwarae honno tan iddi dorri.
Wedyn clywed Tacsi i'r Tywyllwch, Merch Tŷ Cyngor ac wrth gwrs Rhywbeth Bach; bob un â'i stori, bob un yn meddwl rhywbeth i bob un ffan yng Nghymru ac o amgylch y byd.

Cefais y fraint o fynd i stiwdio Sain pan oedd Geraint yno gyda'r Cynganeddwyr yn recordio. Cael tynnu lluniau gyda nhw a chael eu llofnod nhw; o'dd Geraint bob tro'n rhoi'r flwyddyn roedd yn arwyddo (sy'n dangos faint o'dd Mam yn gorfod swnian am lofnod!).
Cawsom hefyd fynd i Gwobrau Sgrech yn ddim o oed – sôn am fraint, a Jarman a'r Cynganeddwyr yn ennill bron bob blwyddyn. A ges i fy llun yng nghylchgrawn Sgrech unwaith fel eu ffan ieuengaf!!
Yn anffodus dim eu ffan ieuengaf ydw i bellach; un o rhai hynaf 'swn i feddwl.
Roedd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn Cofi Roc yng Nghaernarfon 'chydig o flynyddoedd 'nôl. Cefais y fraint o siarad efo fo, ac wrth gwrs cael llun mwy diweddar. Roedd o bob tro'n hael ei amser. Roedd y cariad at ei ganeuon dal yna a'i bresenoldeb ar y llwyfan bob tro'n drydanol.
Colled mawr i ni fel ei ffans, ond twll enfawr i'w deulu a ffrindiau.

Geraint a Carys mewn gig yn Cofi Roc, Caernarfon
Ifan Jones
Ro'n i'n dilyn Jarman ar ddiwedd y 70au, ddechrau'r 80au pan o'n i'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a sawl gwaith bu Jarman yn perfformio yn Neuadd yr Undeb.
Jarman yn dod ar y llwyfan yn ei jîns du, crys-t du, a chot cynhebrwng du a Ray Bans ar ei drwyn. Y band yn canu nodau cyntaf y gân Gwesty Cymru tra roedd Jarman yn dod ar y llwyfan ac yn symud i guriad y bît.
Roedd y gynulleidfa'n llawn Cymry, Saeson ac Americanwyr a phawb yn mwynhau. Jarman oedd perchennog y llwyfan ac yn hawlio sylw pawb drwy neidio fyny ac i lawr a gneud pob math o symudiade i'w gerddoriaeth. Roedd o'n berfformiwr heb ei ail.

Poster gig yn Y Rhyl yn 1982
Ond yr hyn fydda i'n gofio am Geraint fydd ei anwyldeb o. Yn fodlon rhoi o'i amser i siarad hefo boi o Glanrafon, Corwen. Yn rhoi ei rif ffôn i mi rhag ofn y bydde fo'n gallu'n helpu fi wedi i mi adael y coleg. Roedd Geraint yn seleb, ond iddo fo'i hun doedd o ddim ond boi cyffredin o Glanrafon, Caerdydd.
Cofio mynd i weld o'n Dixieland Rhyl. Ddoth o ar y llwyfan ac ro'n i'n sefyll yng nghefn y sgwâr dawnsio. Sylwodd Geraint arna i a chodi cledr ei law a 'nghydnabod. Boi fel 'ne oedd Geraint. Boi iawn.
Yn anffodus, mi ddoth y tacsi â'i hebrwng i'r tywyllwch yr oedd wedi canu amdano. Ddaeth ei farwolaeth fel uffern o sioc i mi.
Diolch am y caneuon a diolch am yr atgofion.

Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018