Sut oedd merched Oes Fictoria'n delio â'r mislif?
- Cyhoeddwyd
Mae mislifo (menstruation) wedi bod yn rhan anorfod o fywydau menywod ers dechrau amser, ac eto, ers canrifoedd, o fewn diwylliannau gorllewinol roedd y mislif yn cael ei ystyried fel rhywbeth budr ac yn destun cywilydd.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn ystyried sut oedd merched Cymru yn dygymod â'r mislif dros ganrif a mwy yn ôl.

Cyngor mewn cyfrolau
Yn ystod y cyfnod Fictoraidd roedd cymdeithas yn disgwyl i fenywod guddio'u mislif a pheidio'i drafod yn gyhoeddus. Gan fod mislifo yn gymaint o dabŵ nid oes llawer o erthyglau yn cyfeirio at sut i ddygymod ag ef.
Yn 1821, mae cylchgrawn Yr Eurgrawn Wesleyaidd yn awgrymu os ydy'r 'misglwyf yn rhedeg gormod' y dylid yfed gwydr 'o'r dwfr oeraf a fedrwch chwi gael' ac i osod 'lliain wedi ei wlychu mewn dwfr oer wrth y fan'.
Awgrymwyd bod gosod sbwng wedi'i socian mewn gwin gwyn a finegr yn lleddfu'r gwaedu hefyd.

Gair o gyngor o Yr Eurgrawn Wesleyaidd o Orffennaf 1821
Yn ei gyfrol Y Llysieulyfr Teuluaidd (1862) mae Thomas Parry o Dregarth ger Bethesda yn awgrymu bod gwreiddiau llysiau Solomon wedi'u sychu a'u malu'n fân 'yn rhwystro gorlifiad gormodol y misglwyf yn y merched' hefyd.
Mae yna gyfoeth o gyngor a thriniaethau i'w canfod yn Llysieulyfr Martha Jones. Wedi'i geni yn Llangian, ger Abersoch yn 1855, symudodd Martha a'i theulu i Flaenau Ffestiniog yn fuan wedyn.
Roedd enw Martha'n dra cyfarwydd ymhlith trigolion bro Ffestiniog fel llysieuwraig alluog. Mewn oes lle nad oedd y mwyafrif o bobl gyffredin yn gallu fforddio talu am wasanaeth y meddyg roedd cyngor merched gwybodus fel Martha yn werthfawr tu hwnt.
Yn ôl Martha, roedd yna lawer o blanhigion y gellid eu defnyddio i greu meddyginiaethau cartref i leddfu'r gwaedu. Rhannodd bod modd creu ffisig i atal y mislif trwy greu te gyda Mintys y Gath neu roedd 'berwad cryf' o'r Fantell Fair yn 'rhagorol o dda i attal mislifiad gwyllt' hefyd.
Mae Martha yn cyfeirio yn ogystal at blanhigion oedd yn gallu 'annog mislifiad' hefyd gan gynnwys Berw'r Gwyllt ac Esgorlys.

Niceri 'agored' oedd merched Oes Fictoria yn eu gwisgo
Tywelion 'arloesol'
Roedd merched fel rheol yn gorfod dibynnu ar gadachau neu garpiau yn ystod eu mislif. Wedi'u creu yn y cartref gan ddefnyddio hen ddefnyddiau megis gwlanen neu gotwm, roedd yn rhaid eu golchi a'u hailddefnyddio.
Wrth i'r 19eg ganrif fynd rhagddi, daeth gwisgo niceri yn arfer mwy cyffredin ond roedd blwmers y cyfnod yn fawr ac yn llac gan olygu nad oedd hi'n hawdd gosod cadach ynddynt.
I oresgyn y broblem yma roedd merched yn gwisgo beltiau – nid yn annhebyg i wregysau dal sysbendars – o amgylch eu canol i ddal eu 'cadach misglwyf.'
Erbyn terfyn Oes Fictoria roedd yna fwy o ddewis o ran offer i ymdopi â'r mislif. Yn ystod yr 1880au mae'r brodyr Southall o Birmingham yn cyflwyno'u 'sanitary towels' newydd.
Roedd y brodyr yn honni bod y padiau newydd yn antiseptig, yn esmwyth, ac yn ysgafn. Doedd dim angen eu golchi chwaith – dim ond eu llosgi ar ôl i chi orffen.

Roedd tywelion Southall's yn cael eu hysbysebu mewn papurau newydd Cymraeg, fel yn Y Werin ar 9 Ionawr 1886
Ymddangosodd un o'r hysbysebion cynharaf ar eu cyfer ym mhapur newydd The Cambrian News.
Yn ôl yr hysbys roedd modd prynu 12 ohonynt yn siop 'Mrs. Cooke Ladies' Outfitter, 35 Pier-street, Aberystwyth' am dri swllt a chwe cheiniog. Pe bai gennych ormod o gywilydd i fynd i'r siop i'w prynu roedd hi'n bosib derbyn pecyn plaen heb unrhyw 'sgrifen arno trwy'r post hefyd.
Mewn un hysbyseb yn Y Werin, papur newydd radical ei gyfnod, honnwyd mai'r 'sanitary towels' newydd yma oedd 'one of the most valuable inventions for woman's comfort' ers chwarter canrif.
Gan gofio nad oedd modd ail-ddefnyddio'r padiau yma mae'n debyg na fyddai llawer o ferched yn gallu cyfiawnhau'r gost o'u prynu, yn arbennig o ystyried bod yn rhaid eu taflu ar ôl eu gwisgo unwaith.
Yn ystod Oes Fictoria, mater preifat oedd y mislif, a chyfyngedig oedd y dewisiadau a oedd gan fenywod ar gyfer dygymod ag ef. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, roedd merched yn llwyddo i ofalu am eu hunain, a hynny mewn cymdeithas a oedd yn anwybyddu eu hanghenion yn aml.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023