75 mlynedd o arddio a thyfu llysiau byd enwog

Mae Medwyn Williams yn garddio ers 75 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Un o bersonoliaethau mwyaf llwyddiannus y byd garddio llysiau ym Mhrydain yw Medwyn Williams o Ynys Môn.
Mae'r gŵr 83 oed o Lanfairpwll yn dathlu 50 mlynedd o werthu llysiau ar draws Prydain eleni.
Mae hi hefyd yn 75 mlynedd ers iddo ddechrau garddio gyda'i dad yn fachgen bach wyth oed.
Dros y blynyddoedd mae wedi derbyn MBE, cael ei anrhydeddu gan yr RHS ac wedi ennill y fedal aur 14 o weithiau yn Sioe Flodau Chelsea.
Er ei fod wedi arafu gyda'r sioeau, does ganddo ddim bwriad ymddeol o ran gwerthu llysiau, meddai.
Dyma Medwyn yn trafod ei yrfa ryfeddol gyda Cymru Fyw, o dyfu hadau yn ei ardd gefn i fod nawr yn gwerthu i bron i 3,000 o gwsmeriaid.
Diddordeb cynnar
Er mwyn deall yn union ble ddechreuodd y diddordeb mewn garddio mae'n rhaid mynd yn ôl i 1950, ac i Langristiolus, sef pentref yng nghanol Ynys Môn ble fagwyd Medwyn.
"Roedd fy nhad yn was fferm ac yn garddio yn ei amser sbâr.
"Roedd Dydd Gwener y Groglith yn ddiwrnod mawr yn ein tŷ ni, dyna'r adeg lle roedden ni'n plannu tatws newydd.
"Roedd Dad yn dallt y tir ac roedd o'n dangos mewn sioeau lleol ym Mrynsiecyn, Rhosneigr, Talwrn lle oedd 'na bentwr o sioeau bach.
"Bryd hynny roedd o'n cael ei alw'n 'ddyn y moron hir, roedd o'n ennill yn aml efo'i foron hir," meddai.
Dros y blynyddoedd wedyn, fe dyfodd diddordeb Medwyn ac fe ddechreuodd gwneud ei ymchwil ei hun am sut i dyfu llysiau.
"Roedd mynd i Sioe Amwythig tua 24 oed yn gam mawr ymlaen i mi.
"Dwi'n cofio cerdded fewn i babell fawr yno a gweld y casgliadau o flodfresych a chael ogla'r blodau a'r gwair, 'nath hynny godi awydd i mi drio neud ru'n peth," meddai.

Medwyn a'i dad yn nyddiau cynnar y cystadlu yn y 1970au
Sioe Sir Fôn
Ar ôl bod yn yr Amwythig y daeth yr awydd i Medwyn gystadlu. Roedd o'n teimlo y gallai efelychu'r hyn welodd yn y sioe, ac wrach mynd un yn well.
"Dyma fi'n gafael ar lyfr Edwin Beckett oedd yn hen ddangoswr, wedi ennill yn Chelsea yn y 1920au, roedd hwn yn ysbrydoliaeth mawr ac yn dangos sut i dyfu llysiau mawr.
"Dyma fi wedyn yn dangos casgliad o naw o wahanol lysiau yn Sioe Sir Fôn.
"Daeth 'na ddyn ata'i a gofyn os fase fi'n hoffi dod i'r Royal Welsh a pwy oedd o ond y Chief Exec.
"Roedd rhaid ffeindio digon o lysiau wedyn i lenwi 15 troedfedd o gasgliad ar gyfer y Royal Welsh.
"Dwi 'rioed wedi gwrthod sialens. Dim ond ardd gefn oedd gen i i dyfu yr holl lysiau ac fe gafon ni y fedal aur yno," meddai.

Medwyn yn nyddiau cynnar y cystadlu
Ers hynny mae Medwyn wedi arddangos mewn sawl sioe ac wedi caul aur ym mhob un sioe mae wedi arddangos ynddi ers dechrau'r 1970au. Roedd dau o'r rheiny yn America.
Tua diwedd y 1980au fe ddechreuodd Medwyn ymweld â Sioe Flodau Chelsea.
"Tydi hi ddim yn hawdd entro Chelsea fel fysa i Sioe Sir Fôn.
"Mae'n rhaid i chi brofi eich hun i'r RHS fod modd i chi allu neud y sioe cyn mynd fewn.
"Roedd rhaid i ni ddewis sioe arall yr RHS heblaw Chelsea.
"Fuo ni yn Hampton Court, arddangosfa yno'n ddeg troedfedd, nes i erioed feddwl cael medal aur ond dyna ddigwyddodd.
"Roedd y drws yn agored wedyn i Chelsea. A dyma ni yn cystadlu ac ennill aur yn 1996."

Medwyn Williams yn ennill aur yn Sioe Flodau Chelsea
Yn ogystal ag arddangos mae Medwyn hefyd yn gwerthu llysiau ers 50 o flynyddoedd.
"Nes i ddechrau gwerthu llysiau yn 1975 a tyfu cennin a nionod, moron yn yr ardd gefn.
"Nes i roi advert yn Garden News fod hadau ar gael i'w gwerthu gen i.
"Dyma'r Editor yn dod rownd a gweld yr ardd. Ges i wahoddiad i sgwennu yn y Garden News wedyn pob wythnos.
"Bryd hynny roedd pobl yn anfon envelope i mi anfon hadau iddyn nhw.
"Ffeindio wedyn fod 'na farchnad dda i werthu llysiau.
"Roedd o'n waith caled iawn ar y pryd achos ro'n i'n gweithio llawn amser hefyd i'r Cyngor Sir.
"Bryd hynny roedd 'na lot fawr o postal orders a sieciau, llai o sieciau erbyn heddiw a mwy o dalu arlein. Mae gen i fyny at 2800 o gwsmeriaid yn archebu erbyn hyn."
Roedd yn rhaid i Medwyn symud y tyfu o'r ardd gefn a phrynu tir pwrpasol ar Ynys Môn oedd yn gallu ymdopi gyda maint y tyfiant.
Mae'n cyflogi dau berson erbyn hyn ac yn parhau i dyfu'r llysiau yn lleol.
Tomato'r Ddraig Goch
Meddai: "Dwi ddim yn cystadlu cymaint dyddia yma, ond un o'r petha dwi'n fwya' balch ohonyn nhw ydi creu y ffrwyth cyntaf erioed i gael enw Cymreig."
Eglurodd ei fod wedi llwyddo i greu'r tomato newydd drwy groesi dau fath - Gold Starefo a Cedrico.
"Tydi o ddim 'di cael be' maen nhw'n alw'n genetic engineering," meddai.
"Mae hwn wedi cael ei groesi yn y ffordd draddodiadol o beillio o un planhigyn i'r llall."
Bwriad Medwyn oedd creu tomato newydd i'w arddangos mewn sioeau, ond sydd hefyd yn "flasus ac yn dathlu llwyddiannau tîm pêl-droed Cymru".
Yn dilyn llwyddiant y tîm ym mhencampwriaeth Euro 2016, roedd am dalu teyrnged i'r tîm drwy wneud y cysylltiad rhwng ei domato newydd a Chymru.
"Dwy flynedd yn ôl fe wnaethon ni roi'r enw Red Dragon ar y tomato.
"Ond, doedd y bobl oedd yn cofrestru llysiau newydd ddim yn licio'r enw yna, a ges i lythyr yn ôl yn gofyn be' fyddwn i'n licio ei enwi fo eto.
"Dyma fi'n dweud efo tafod yn fy moch, Y Ddraig Goch, ac wrth gwrs mi dderbynion nhw hwnnw," meddai.

Medwyn yn arddangos ei domato newydd, Y Ddraig Goch
Mae'r cystadlu wedi dod i ben erbyn hyn ond mae Medwyn yn parhau i gael ei wahodd i gynnal sgyrsiau ar hyd Prydain.
Prysur iawn yw'r ffôn hefyd wrth i bobl ei ffonio yn ei gartref i ofyn am gyngor am yr hwn a'r llall yn yr ardd.
Mae blynyddoedd o waith ymchwil ac arbrofi gyda lysiau gwahanol wedi golygu fod Medwyn yn un o'r tyfwyr llysiau mwyaf uchel eu parch ym Mhrydain.
Mae ei record yn Chelsea yn profi hynny, ac ar un cyfnod roedd Y Fam Frenhines yn prynu llysiau ganddo.
Ond, mae'n dweud mai cefnogaeth ei wraig Gwenda a'i agwedd penderfynnol o herio ei hun sydd wedi sicrhau yr holl lwyddianau dros y blynyddoedd.
Mae waliau cartref Medwyn yn llawn lluniau ohono'r llwyddo yn y sioeau dros y blynyddoedd, ond am y tro ag yntau'n 83, mae'n falch o hel atgofion am dros dri chwarter canrif o dyfu llysiau.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021