Natalie Jones: Byw mewn 'rhyfel gyda fy hun'

Natalie JonesFfynhonnell y llun, Rhiannon Holland
  • Cyhoeddwyd

Mae Natalie Jones o Bwllheli yn disgrifio ei pherthynas gyda'i chorff fel 'rhyfel gyda fy hun'.

Wedi dioddef o anhwylder bwyta a phroblemau iechyd wrth dyfu fyny, mae'r awdures wedi cael persbectif newydd ar ei chorff wedi iddi gael canser y fron a diagnosis o glefyd y siwgr ac mae'n erfyn ar fenywod i fod yn fwy caredig i'w hunain.

Mae Natalie newydd rannu ei stori mewn cyfrol newydd, Fel yr Wyt, sy'n sôn am brofiadau 20 o fenywod o fyw mewn corff mwy.

Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am sut mae ei pherthynas gyda'i hun wedi newid dros y blynyddoedd.

Gan boeni am ei phwysau o oedran ifanc, roedd Natalie mewn 'cylch dieflig' o siarad yn angharedig gyda'i hun ac yna gorfwyta er mwyn cysur.

Roedd cylchgronau a'r diwylliant pop yn ddylanwadau mawr ar ei hunan-werth, meddai, ac wedi arwain iddi gredu mai'r unig gorff derbyniol oedd corff tenau: "Roedd hwnna yn ddechreuad o fi'n teimlo bod fi'n dew ond ar ôl hynna oedd o [yr anhwylder bwyta] yn fwy i wneud efo rheolaeth.

"Ond erbyn hyn dyw faint dwi'n pwyso ddim mor bwysig."

Diagnosis

Roedd diagnosis Natalie gyda canser y fron yn 42 oed yn drobwynt, meddai: "Newidiodd y geiriau 'canser y fron' bopeth.

"S'dim byd fel profiad o gael canser i roi perspectif. Oedd yr un oedd genna'i yn tyfu'n araf.

"Ar ôl y radiotherapi o'n i wedi blino lot ond dwi'n barod rŵan i gael egni a gwneud pethau dw i wedi bod yn siarad amdanynt am flynyddoedd.

"Mae'n rhoi pethau mewn perspectif i ti.

"Dydy o ddim yn amlwg bod fi wedi cael llawdriniaeth ar fy mron. Cefais i lumpectomy - oedd lot o fenywod o gwmpas fi wedi colli eu bronnau yn gyfan gwbl.

"Dwi'n cofio meddwl amdanyn nhw a sut maen nhw'n teimlo a sut mae eu cyrff nhw wedi newid gymaint oherwydd canser y fron. Os fyddwn i wedi cael mastectomy llawn byddwn i ddim yn poeni am fod cwpl o stôn dros bwysau.

"Dwi wedi bod mor lwcus bod fi ddim wedi gorfod cael hynny."

Natalie JonesFfynhonnell y llun, Natalie Jones

Roedd Natalie'n teimlo fod ei chorff wedi ei 'bradychu' wrth gael diagnosis o ganser ac hefyd clefyd y siwgr ond erbyn hyn mae ei hagwedd at ei chorff yn fwy cadarnhaol, meddai: "Mae lan i fi i edrych ar ôl fy nghorff i felly dyna dwi'n trio neud mwy.

"Ac ymlacio a gwneud meddwlgarwch – dwi'n trio gwneud pethau neis i fi fy hun a mwynhau'r plant, mwynhau'r teulu. Dyna beth yw e mwy na sut dwi'n edrych."

Cywilydd

Yn y llyfr mae Natalie'n ysgrifennu am ei chywilydd ar ôl rhoi pedair stôn ymlaen ar ôl ei thriniaeth canser a'r 'cylch dieflig' wrth fwyta i gael cysur.

Mae'r ffaith fod ganddi bobl positif o'i hamgylch wedi ei helpu drwy'r cyfnod anodd, meddai: "Mae gŵr fi'n real foodie hefyd ac mae gyda fo moto bod ddim pwynt bwyta os na ti'n mynd i fwynhau'r bwyd.

"Mae o wedi helpu fi i roi pwyslais ar safon y bwyd yn lle maint y bwyd. Dwi dal methu colli pwysau ond dyw o ddim diwedd y byd. Dwi'n hapus, dwi'n gyfforddus."

Perthynas gyda'i chorff

Mae Natalie'n datgan ei bod wedi mynd o fod yn 'farnwr mwyaf llym' ei chorff i fod yn gyfaill ond mae dal yn cael diwrnodau anodd: "Os dwi'n cael diwrnod isel dyna pryd mae'r meddyliau yna'n gallu dod yn ôl.

"Os mae'r teimladau tywyll yn dod yn ôl cyn i fi fynd allan dwi'n mynd yn ôl i anadlu, gadael i'r teimladau fynd a ddim dal arni nhw. Trio siarad â fy hyn yn garedig.

"Ond fel dwi'n mynd yn hŷn maen nhw'n mynd yn llai a llai."

Natalie JonesFfynhonnell y llun, Rhiannon Holland

Rhannu

Roedd rhoi ei phrofiadau ar bapur ar gyfer llyfr Fel yr Wyt hefyd wedi helpu, meddai: "Roedd yn cathartig – a 'nath o helpu fi i roi break i fy hun achos dwi wedi bod trwy lot. Byddai unrhyw un yn sefyllfa fi wedi rhoi pwysau ymlaen.

"Dwi'n meddwl am beth dwi wedi cyflawni. Dyna beth sy'n bwysig.

"Dwi'n cadw fy hun yn brysur ond wedi cael therapi ac yn teimlo'n wahanol am fywyd."

'Stigma'

Ond mae stigma cymdeithas am gyrff mwy yn parhau, meddai: "Mae dal stigma yn y gymdeithas o ran safon harddwch. Ti dal yn gweld menywod efo stumog fflat (yn modelu dillad) ond dwi ddim yn cymharu fy hun dim mwy.

"Dwi'n edrych fel dwi'n edrych ac os mae pobl yn mynd i farnu dyna problem nhw."

Bodlon

Erbyn hyn mae Natalie yn athrawes ac wedi ysgrifennu llyfr am 20 o bobl mwya' lliwgar Cymru.

Meddai: "Dwi'n hapus efo beth dwi'n neud – dwi'n teimlo'n fodlon fy myd.

"Dwi'n gweithio efo plant, mynd i ysgolion lot ac wrth fy modd yn gweld pobl ifanc a plant a trio ysbrydoli nhw a chael hwyl 'da nhw.

"I fi s'dim byd gwell na hynna.

"Dwi just isho i fenywod eraill deimlo yn gryf a bod nhw ddim ar ben eu hunain efo problemau fel hyn."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig