Cyhuddo dyn, 45, yn dilyn achos o drywanu yn Aberfan

Ffordd Aberfan yw'r brif ffordd drwy'r dref a chafodd ei chau am gyfnod brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 45 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol yn dilyn digwyddiad yn Aberfan.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Aberfan brynhawn Sadwrn, 16 Awst yn dilyn adroddiadau bod person wedi ei drywanu.
Mae dyn 40 oed a gafodd ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad bellach wedi ei ryddhau.
Mae'r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo fynd o flaen llys ar 16 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.