Môn: Treulio 24 awr ar ynys fechan mewn ymdrech gymunedol
- Cyhoeddwyd
Efallai nad yw treulio 24 awr yn y gwynt a'r glaw ar ynys unig yn swnio fel syniad pawb o amser da, ond dyna'n union mae dynes o Fôn wedi ei gyflawni mewn ymgais i godi arian.
Gobaith grŵp cymunedol yn ardal Amlwch yw prynu cwt cychod lleol, ac mewn ymgais i godi arian at yr achos fe dreuliodd Di Mills ddiwrnod a noson gyfan yn gwersylla ar ynys fechan 1.5 acer ger arfordir Amlwch.
Tra bod Ynys Amlwch i'w gweld yn glir o Borth Llechog, does dim seilwaith o gwbl yno a does dim gwair na phlanhigion yn tyfu ar yr ynys greigiog.
Ond wedi treulio nos Fawrth yn gwersylla ar yr ynys, mae Di bellach yn ôl yn ei chartref yn Rhosybol ar Ynys Môn.
Wedi treulio 24 awr yno gydag adar môr yn gwmni iddi, disgrifiodd y profiad fel un "brawychus ar adegau".
Yn ôl Di, sy'n 65 oed ac yn gweithio fel athrawes yoga ac yn gyrru bws ysgol, roedd y profiad yn "agoriad llygad".
“Doedd y tywydd ddim yn wych ac roedd hi’n arw iawn wrth fynd allan, fe aeth fy ngŵr â fi allan ar y Jet Ski ac roedd 'na rwyfwyr yn dod â fy mhethau wedyn.
"Roedd y môr yn arw iawn ac wrth i mi geisio cael ar yr ynys wnes i syrthio i mewn, felly ddim y cychwyn gorau!
"Fe wnes i drio sychu ond dim ond un darn gwastad sydd ar y graig lle allwch chi eistedd, does 'na unman cyfforddus i eistedd."
Ond nid dyna'r cyfan yr oedd yn rhaid i Di ddod i'r arfer ag o, gan gynnwys goroesi ar ychydig iawn o gwsg.
“Mae’r ynys wedi ei orchuddio gyda baw adar, roedd yr arogl yn ofnadwy!
“Ges i noson arw iawn gan ei bod hi’n wyntog ac yn bwrw glaw.
“Does dim lle i roi pabell nac i begio dim byd i lawr felly’r cyfan oedd gen i oedd ymbarél.
“Ond roedd awyr y nos yn garped o sêr - roedd yn brydferth iawn.
"Roedd yna gymaint o wylanod, crëyr bach, a llwyth o fulfrain."
'Fyswn i ddim yn gwneud eto!'
Ei bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ac arian tuag at ymdrech leol i brynu hen Dŷ Cychod Porth Llechog er budd y gymuned leol.
"Mae angen codi £100,000 i brynu'r cwt cychod yn ôl, sef un o'r ychydig orsafoedd bad achub gwreiddiol sydd ar yr ynys," ychwanegodd Di.
"Rydan ni eisiau sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i'r pwrpas gwreiddiol yn hytrach na chael ei brynu gan ddatblygwr eiddo i'w ddefnyddio efallai unwaith y flwyddyn."
Ond a fyddai Di yn gwneud rhywbeth fel hyn eto?
“Ers dod yn ôl rydw i wedi cael fy syfrdanu gan yr holl gefnogaeth.
"Dwi'n hapus mod i wedi llwyddo ond os fysa rhywun yn cynnig £10,000 i mi wneud noson arall, fyswn i ddim!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023