'Mae Wylfa am gymryd blynyddoedd, 'da ni angen gwaith rŵan'
- Cyhoeddwyd
Mae rhannau o ogledd Môn "ddirfawr angen buddsoddiad" yn sgil pryderon fod pobl o oed gwaith yn diflannu oherwydd diffyg cyfleoedd.
Dywed adroddiad newydd gan Gyngor Môn fod gogledd yr ynys "wedi bod yn dirywio ers dau ddegawd o leiaf", gan adael poblogaeth sy'n heneiddio a lle mae'r Gymraeg yn gwanhau.
Erbyn hyn mae na ddwywaith cymaint o bobl dros hanner cant oed yn byw yn yr ardal na'r rhai sydd rhwng 25 a 49, ac mae'r economi leol yn cael ei ddisgrifio fel un "bregus".
Wrth amlinellu datblygiadau posib a all sbarduno'r economi'n lleol, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor fod yr awdurdod yn gweithio ar ddatblygu mwy o unedau busnes a cheisio denu datblygiadau eraill i'r ardal.
Patrwm o golli swyddi
Mae colli swyddi wedi bod yn stori gyffredin ar yr ynys dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda'r rhan ogleddol wedi ei tharo mor galed â'r un lle.
Fe gollwyd dros 500 eu gwaith yn sgil cau ffatri Octel Amlwch yn 2004 ac yna Alwminiwm Môn yn 2009.
Mae llai yn gweithio yn yr orsaf niwclear wreiddiol yn Wylfa ers iddi stopio cynhyrchu ynni yn 2015, a'r un oedd y stori gyda chau drysau ffatri Rehau yn Amlwch yn 2019, gan arwain at ddiswyddo 100 arall.
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 13,200 o bobl yn byw yng ngogledd yr ynys, ond rhwng 2011 a 2021 gwnaeth y nifer sy'n byw yno sydd dros 65 oed gynyddu bron i 30%, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd Cymreig (18%).
Gyda'r cyngor yn nodi fod "anweithgarwch economaidd wedi cynyddu gan ei bod yn ardal boblogaidd i ymddeol iddi", a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn "wael", mae'n cael ei gydnabod fel problem.
Yr wythnos diwethaf fe gaeodd Ysgol Carreglefn ei drysau wedi i nifer y disgyblion syrthio o 42 yn 2012 i ond naw erbyn eleni.
Ond hefyd yn amharu ar gryfder yr iaith, roedd gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Amlwch a Llannerch-y-medd rhwng 2011 a 2021.
Ychwanegodd yr adroddiad fod "ddirfawr angen buddsoddiad" yn yr ardal.
"Mae’n destun pryder bod yr ardal wedi colli cymaint o drigolion rhwng 25 a 50 oed, pan fydd pobl fel arfer yn nyddiau cynnar eu gyrfa ac yn bwrw gwreiddiau."
'Mae'n anodd iawn i deuluoedd ifanc'
Un sydd wedi byw yng ngogledd Môn ar hyd ei hoes ydi Elin Mair Wynne.
Mae'r fam i ddau yn byw yn Llanfechell, sydd rhyw ddwy filltir o safle Wylfa, ac yn drysorydd ar y grŵp cymunedol Cyfeillion Mechell.
Dywedodd fod newid cymdeithasol wedi bod yn amlwg yma dros y blynyddoedd.
"Yn sicr mae colli swyddi wedi cael hit ofnadwy ar deuluoedd ifanc, mae'r pentref a'r ardal wedi mynd yn hŷn, os mae hynny'n weddus i'w ddweud, ac mae'n anodd iawn i deuluoedd ifanc ddod yn ôl i'r pentref a'r ardal.
"Pan maen nhw'n cau lawr mae 'na garfan fawr wedyn o'r ardal yn gorfod symud o' 'ma i chwilio am waith yn rwla arall sy'n matchio'r cyflog.
"Fe gewch chi lot o bobl sydd wedi ymuno â'r gymuned sydd yn cefnogi digwyddiadau a ballu yn y pentref, dydy o ddim bob tro yn negyddol, ond mae 'na lot o deuluoedd ifanc yn teimlo fod rhaid iddyn nhw symud allan."
Mae hi o'r farn hefyd fod teuluoedd ifanc yn methu allan ar weithgareddau cymunedol.
"Mi oeddan ni'n teimlo ein bod ni yng ngogledd Môn yn methu allan 'chydig bach ar weithgareddau plant.
"Mae'r clwb Rygbi yn Llangefni a'r clwb Criced ym Mhorthaethwy, mae'r rheiny yn eithaf pell ac mae teuluoedd yn gorfod meddwl am gostau ac amser teithio.
"Fel Cyfeillion Mechell 'da ni'n trio tapio fewn i bob grant i gynnal gweithgareddau fan hyn."
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019
'Wedi cael ein gadael i lawr'
Yn hanesyddol mae prif obeithion economaidd Môn yn lled-ddibynnol ar adeiladu atomfa niwclear newydd i olynu'r orsaf Magnox wreiddiol.
Y disgwyl yw y byddai atomfa o'r fath yn creu tua 1,000 o swyddi parhaol.
Ond cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 eu bod yn atal yr holl waith ar gynllun Wylfa Newydd - a fyddai wedi costio hyd at £20bn - yn sgil methiant i gyrraedd cytundeb ariannol.
Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi prynu'r safle gan Hitachi, ac yn fuan cyn yr etholiad cyffredinol daeth cadarnhad gan y llywodraeth Geidwadol mai safle Wylfa yw'r dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear.
Tra'n gwthio i weld datblygiad o'r fath ym Môn a'r angen i osod amserlen glir, mae Aelod Seneddol newydd yr ynys yn cydnabod bod unrhyw ddatblygiad niwclear flynyddoedd i ffwrdd.
"'Da ni wedi cael ein gadael i lawr wrth i ni edrych ymlaen at Wylfa Newydd at 2019, mi fasa'r economi'n symud, fasa na swyddi, cyfleoedd a hyfforddi a 'sa'r bwrlwm yn yr ardal," meddai Llinos Medi.
"Does yr un llywodraeth wedi dod a'r atomfa yma i Fôn, ac mae'r posibilrwydd i hwnnw ddod yn bell i ffwrdd.
"Mae'r heriau mae'r ardal yn eu hwynebu yma rŵan, felly dyna pam mae rhaid cael ymyrraeth wahanol yma."
Ychwanegodd fod effaith diwydiannau'n gadael yr ardal yn "anferthol" ar wydnwch cymunedol a bod llai o enedigaethau yn yr ardal erbyn hyn.
Dywedodd hefyd fod pellter yr ardal o briffordd yr A55 hefyd yn gwneud y sefyllfa'n "fwy heriol".
'Hollbwysig i'r ynys gyfan elwa'
Mae adroddiad y cyngor yn arddel sawl cynllun er mwyn creu swyddi cyn gynted â phosib, gan gynnwys datblygu mwy o unedau busnes o gwmpas tref fwyaf poblog yr ardal, sef Amlwch.
Gobaith yr awdurdod yw bod yr adroddiad yn amlinellu anghenion penodol gogledd yr ynys wrth geisio gweithio gyda llywodraethau Cymru a'r DU, yn ogystal â'r Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear (NDA), i adfywio’r ardal.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Gary Pritchard, fod angen meddwl yn strategol a bod "denu gwaith sydd ddim yn ddibynnol ar Wylfa hefyd yn hollbwysig".
"Rŵan bod ganddo' ni fwy o bobl dros eu 70 a llai o beth coblyn o bobl dan 50, y pwrpas ydi sicrhau fod y dystiolaeth ganddo' ni i fynd gerbron Llywodraeth Cymru i ofyn am arian i helpu ni ddatblygu strategaeth fel bod gwaith yn dod i ogledd yr ynys," meddai.
"'Da ni wedi dynodi rhan o Rosgoch a hen diroedd Octel fel rhan o gynllun busnes y porthladd rhydd, mae'n hollbwysig fod yr ynys gyfan yn gallu elwa o'r porthladd rhydd.
"Dydan ni ddim isho rhoi ein hwyau i gyd yn yr un fasged, 'da ni wedi dysgu hynny wrth gael ein gadael i lawr dros y blynyddoedd.
"Ydy mae'n bwysig i strategaeth economaidd yr ynys ond mae 'na fwy nag ond Wylfa.Mae'r holl unedau busnes 'da ni wedi eu codi ar yr ynys wedi'w llenwi, a hefo busnesau bychan a chanolig mae'r arian yn cylchdroi o fewn economi'r sir.
"Nid dyma'r unig ateb ond mae'n rhan o'r strategaeth."
Yn ôl yn Llanfechell dywedodd Elin fod angen gwaith mor fuan â phosib er mwyn cynorthwyo'r trefi a phentrefi ar arfordir gogleddol yr ynys.
"Y bobl fydd yn elwa o'r gwaith [yn Wylfa] fydd y rhai sydd yn yr ysgol gynradd rŵan, mae hi am fod yn flynyddoedd tan welwn ni hoel y gwaith yna.
"Ond y nod pennaf er mwyn i gymuned ffynnu... mae'n rhaid cael gwaith heddiw, dim cynllunio i'r dyfodol, 'da ni isho gwaith rŵan.
"Beth bynnag ydy barn unrhyw berson am niwclear mae Wylfa Newydd yn sicr o greu gwaith, ond y cwestiwn mawr ydy pryd?"