Caerdydd: Pobl wedi'u symud o'u cartrefi ar ôl tân ar safle nwy

Ferry RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân ar safle nwy ger Ferry Road - sy'n arwain at gefn siop Ikea

  • Cyhoeddwyd

Cafodd tua 70 o drigolion eu gorfodi i adael eu cartrefi yng Nghaerdydd dros nos o ganlyniad i dân ar safle nwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad ger Ferry Road - sy'n arwain at gefn siop Ikea - am 01:38 fore Iau.

Dywedon nhw fod rhai pobl sy'n byw gerllaw wedi gorfod symud i ganolfan gyfagos.

Cafodd y tân ar safle Wales & West Utilities ei ddiffodd yn llwyr toc wedi 07:00, ac fe gafodd y trigolion ddychwelyd i'w cartrefi yn fuan wedi hynny.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod swyddogion y gwasanaeth tân bellach wedi gadael.

Fe ddywedodd llefarydd hefyd nad oedd y tân ar eiddo'r cyngor ond ei fod yn agos i dai Hafan, sy'n berchen iddyn nhw.

'Difrod strwythurol'

Dywedodd Matt Phillips, un o reolwyr Wales & West Utilities yng Nghaerdydd: "Cawsom ein galw i adroddiadau am dân... yn oriau mân fore Iau ac fe gafodd tîm o beirianwyr eu hanfon i'r lleoliad ar unwaith.

"Ar ôl cyrraedd, canfuom fod yna ddifrod strwythurol i ran o'r system sy'n dosbarthu nwy.

"Buom yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys i wneud yr ardal yn ddiogel.

"Mae ein tîm bellach yn gweithio i drwsio'r difrod a achoswyd."

Pynciau cysylltiedig