Prif hyfforddwr Abertawe Alan Sheehan wedi'i ddiswyddo

Alan SheehanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Alan Sheehan ddim wedi rheoli ar lefel mor uchel cyn ymuno ag Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo eu prif hyfforddwr, Alan Sheehan ar ôl chwe mis wrth y llyw.

Cafodd y Gwyddel ddau gyfnod fel rheolwr dros dro'r clwb cyn cael y rôl yn barhaol tua diwedd tymor 2024-25 yn dilyn ymadawiad Luke Williams.

Ond dim ond pedair gêm mae Abertawe wedi'u hennill yn y Bencampwriaeth allan o 15 y tymor hwn - record waethaf y clwb ers iddyn nhw gwympo o'r Uwch Gynghrair yn 2018.

Ar ôl colli dydd Sadwrn o 4-1 yn erbyn Ipswich Town yn Stadiwm Swansea.com, maen nhw bellach yn y 18fed safle.

Cafodd Sheehan ei benodi'n gynorthwyydd i Michael Duff yn ystod haf 2023 a bu'n rheoli'r tîm cyntaf dros dro ym mis Rhagfyr ar ôl i'r rheolwr adael.

O dan arweiniad Sheehan, fe gipiodd yr Elyrch 11 o bwyntiau allan o 21 cyn i Luke Williams gael ei benodi'n barhaol i gymryd lle Duff ym mis Ionawr 2024.

Ond ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, roedd Sheehan yn ôl fel rheolwr dros dro ar ôl i Williams gael ei ddiswyddo.

Bydd gêm nesaf Abertawe yn y gynghrair yn erbyn Bryste yn Ashton Gate ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.