Caffis a siopau canolfannau croeso i gau ddiwedd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau pa bryd y bydd caffis a siopau o fewn eu canolfannau ymwelwyr yn cau.
Fe gadarnhaodd fwriad bythefnos yn ôl i gau'r adnoddau yng nghanolfannau Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yng Ngheredigion a Choed y Brenin ger Dolgellau yng Ngwynedd.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai 31 Mawrth 2025 fydd eu diwrnod olaf ar agor.
Y bwriad wedi hynny, medd CNC, "yw lansio ymarferiad cyhoeddus i chwilio am bartneriaid allai fod â diddordeb mewn helpu rhedeg y gwasanaethau hyn... yn y dyfodol".
Mae'r camau hyn, ynghyd â chau eu gwasanaeth llyfrgell, yn rhan o gynlluniau CNC i geisio arbed £12m.
Dywedodd Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC, Elsie Grace eu bod yn "deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr".
Gan "ddiolch ein staff am eu gwaith caled", dywedodd bod CNC "yn gwybod bod y penderfyniad i stopio darparu gwasanaethau arlywo a manwerthu yn siomedig i lawer o bobl".
Daeth penderfyniadau'r bwrdd rheoli, meddai, "mewn ymateb i sefyllfa ariannu dynn eithriadol yr ydym ni a chyrff cyhoeddus eraill yn ei hwynebu".
Pwysleisiodd bod holl lwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a thai bach y tri safle'n parhau ar agor "a byddwn yn dal i gynnal ein safleoedd i sicrhau bod mynediad cyhoeddus yn parhau".
Ychwanegodd y bydd CNC yn rhoi mwy o wybodaeth sut y gallai partneriaid posib, boed yn fusnesau neu'n grwpiau cymunedol, fynegi diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau cyn unrhyw broses dendro.
I'r perwyl hynnw bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal wythnos nesaf, yn:
Neuadd Gymunedol Borth, am 19:00 nos Lun, 25 Tachwedd;
Neuadd Penllwyn, Capel Bangor, Aberystwyth am 18:30 nos Fawrth 26 Tachwedd; a
Neuadd Bentref Ganllwyd am 18:30 nos Fercher 27 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd
- Cyhoeddwyd1 Awst