Cyfoeth Naturiol Cymru i gau caffis a 200 swydd i arbed £12m
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau na fydd yn rhedeg caffis a siopau mewn canolfannau ymwelwyr yn y dyfodol, ac y bydd yn cau eu gwasanaeth llyfrgell i geisio arbed £12m.
Dywedodd CNC y bydd y newidiadau - sy'n golygu colli 233 o swyddi - yn caniatáu i'r corff ganolbwyntio ar "gyfrifoldebau craidd".
Mae 113 o'r swyddi eisoes yn wag, sy'n golygu bod y toriadau yn effeithio ar 120 o aelodau staff presennol.
Dywedodd CNC y bydd staff yn cael eu hadleoli o fewn y sefydliad, ble mae'n bosib.
Mae bwrdd y rheoleiddiwr amgylcheddol wedi cymeradwyo’r ailstrwythuro, yn dilyn ymgynghoriad gydag undebau a staff.
Dywedodd bod sawl cynnig wedi cael ei addasu, gan gynnwys lleihau nifer y swyddi sy'n cael eu colli.
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
Roedd cynlluniau ar gyfer newidiadau i ganolfannau ymwelwyr wedi sbarduno protestiadau a gwrthwynebiad.
Ni fydd y corff amgylcheddol bellach yn rhedeg caffis a siopau yng Nghoed y Brenin yng Ngwynedd, nac ym Mwlch Nant yr Arian ac Ynyslas, yng Ngheredigion.
Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, yn ogystal â mannau chwarae, meysydd parcio a thoiledau.
Dywedodd CNC y byddai'n "gweithio'n agos gyda chwsmeriaid, partneriaid, a rhanddeiliaid i drosglwyddo'n llyfn... at eraill ble mae'n bosib".
Mae CNC hefyd wedi cadarnhau y bydd yn cau llyfrgell amgylcheddol ym Mangor.
Mae grwpiau amgylcheddol ac undeb Unsain wedi beirniadu'r toriadau, gan honni bod ystod y swyddi sy'n cael eu cau yn peryglu byd natur Cymru.
Canolbwyntio ar y 'meysydd pwysicaf'
Ond dywedodd Cadeirydd CNC, Syr David Henshaw, y byddai'r newidiadau "yn ein helpu i wneud gwahaniaeth yn y meysydd pwysicaf".
"Mae'r broses hon nid yn unig yn bwysig o ran delio â chyfyngiadau ariannol ond hefyd yn ymwneud â rhoi CNC yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r materion amgylcheddol mwyaf dybryd."
Er y bydd rhai gweithgareddau'n cael eu "haddasu neu eu cyflwyno'n wahanol", bydd adnoddau ar gael i'w buddsoddi yn y meysydd pwysicaf - fel monitro a gwella ansawdd dŵr, meddai.
"Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymroddiad a'r gwytnwch y mae ein staff wedi'i ddangos drwy gydol y cyfnod hwn o newid,” ychwanegodd Syr David.
“Rydym yn deall bod cost bersonol i'r newidiadau hyn, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein tîm wrth i ni symud ymlaen.”
'Ased gwerthfawr'
Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Coed y Brenin, Delyth Lloyd-Griffiths, ei fod yn "newyddion ofnadwy" i weithwyr a "phawb sy’n rhan o’r ymgyrch i atal cau’r ased lleol gwerthfawr hwn".
"Mae hefyd yn ergyd i’r economi leol a'r economi ymwelwyr ym Meirionnydd, y mae Coed y Brenin yn cyfrannu’n sylweddol tuag ato."