Anelu am record byd drwy gwblhau 4 Ironman mewn 4 diwrnod

Leigh WallisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leigh Wallis yn gobeithio gosod record byd cwbl newydd, a chodi arian i elusenau sy'n agos at ei galon

  • Cyhoeddwyd

Pedwar Ironman, mewn pedwar diwrnod, mewn pedwar cornel o'r Deyrnas Unedig - dyna'r her i Leigh Wallis o'r Pîl ym Mhen-y-bont.

I gyflawni Ironman mae'n rhaid nofio am 2.4 milltir, seiclo am 112 o filltiroedd, ac yna rhedeg Marathon.

Yn achos Leigh, bydd angen gwneud hynny i gyd bedwar o weithiau o fewn pedwar diwrnod ym mhob un o wledydd Prydain os am lwyddo i osod record byd cwbl newydd.

"Dechrau yn Iwerddon, wedyn fferi dros nos i'r Alban. Dechrau eto ar ddydd Gwener ac wedyn symud lawr i'r Cotswolds yn Lloegr cyn gorffen ar y carped coch yn Ironman Dinbych y Pysgod ar y dydd Sul os fydd popeth yn mynd i plan," meddai.

Leigh WallisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

I gyflawni Ironman mae'n rhaid nofio am 2.4 milltir, seiclo am 112 o filltiroedd, ac yna rhedeg Marathon

Ceisio gwthio ei hun i'r eithaf yw'r bwriad, ond mae codi arian yn rhan fawr o'r sialens hefyd.

"Dwi'n mynd i godi arian i ddwy elusen bwysig iawn - Maggies a'r National Autistic Society," meddai.

"Dwi isie trio cael gymaint o arian a phosib i'r ddwy elusen.

"Mae pawb yn nabod rhywun sydd wedi cael canser ac mae fy nai yn autistic, felly mae'n agos at fy nghalon."

Leigh WallisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi 'di bod yn siarad am y sialens yma ers 20 mis neu fwy," meddai Leigh

Gyda llai na 24 awr i fynd cyn i'r her ddechrau, mae Leigh yn teimlo'n "hyderus".

"Y cwestiwn yw, a fydd y corff yn dal allan. Dwi ddim wedi 'neud pedwar diwrnod o training fel hyn ers dechrau, ond dwi'n hyderus y byddaf yn gallu gosod y record byd yma.

"Dwi 'di bod yn siarad am y sialens yma ers 20 mis neu fwy, dwi just isie dechre nawr.

"Dwi'n hyderus y byddai'n gosod y record byd yma."

Leigh WallisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd garw diweddar yn ychwanegu ar yr her, yn ôl Leigh

Mae'r tywydd wedi bod yn stormus iawn dros y dyddiau diwethaf, ond dyw hynny ddim yn amharu dim ar hwyliau Leigh.

"Dwi'n meddwl bod tywydd fel hyn yn rhan o'r her ac yn neud e mor gyffrous. Mae'n teimlo'n ddwl i ddweud hynny, ond dwi'n edrych ymlaen, bring it on."

Ar ôl gorffen Ironman Dinbych y Pysgod, fe fydd Leigh yn cyflwyno cofnod GPS i recordiau Guiness.

Fe fyddan nhw'n asesu'r data, ac yn edrych ar dystiolaeth fideo, ac ymhen wythnos, mae'n gobeithio cael gwybod a yw wedi llwyddo yn ei ymdrechion i osod record byd cwbl newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig