Pancreas artiffisial i'w gynnig i fenywod beichiog â diabetes

Dynes feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y dechnoleg newydd yn cael ei chynnig i fenywod sydd â diabetes tra'n feichiog neu'n bwriadu beichiogi

  • Cyhoeddwyd

Bydd menywod beichiog sydd â diabetes yn cael cynnig pancreas artiffisial i'w helpu i reoleiddio eu lefelau inswlin.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd wedi cyflwyno y dechnoleg newydd ac mae'n addo trawsnewid profiad menywod beichiog sy'n byw gyda diabetes math 1.

Mae'r system yn defnyddio synhwyrydd glwcos i gyfrifo a chyflenwi dosau inswlin manwl gywir sydd eu hangen cyn ac yn ystod beichiogrwydd.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro Hywel Dda, y bydd hyn yn helpu menywod sydd â diabetes i wneud eu beichiogrwydd yn brofiad mwy diogel gyda llawer llai o straen.

Mae Amanda Hunter,  Dr Lisa Forrest, Ann-Marie Martin ac Esther Turner yn ran o dîm clefyd siwgr y Bwrdd IechydFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amanda Hunter, Dr Lisa Forrest, Ann-Marie Martin ac Esther Turner yn rhan o dîm clefyd siwgr y Bwrdd Iechyd

Mae'r pancreas artiffisial yn cynnwys pwmp inswlin, synhwyrydd glwcos, ac algorithm ddatblygedig sy'n rhedeg ar ap ffôn symudol.

Dywedodd Dr Lisa Forrest, Meddyg Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, fod menywod beichiog â diabetes math 1 yn cael anawsterau wrth reoli eu lefelau glwcos cyn ac yn ystod beichiogrwydd.

"Gall hyn arwain at gymhlethdodau i fabanod newydd-anedig, fel genedigaeth gynamserol, pwysau geni uchel, a'r angen am ofal dwys."

"Fodd bynnag, dangoswyd bod lleihau lefelau glwcos yn y gwaed cyn ac yn ystod beichiogrwydd yn lleihau'r risg o ganlyniadau niweidiol difrifol, gan gynnwys namau geni, marw-enedigaeth, a marwolaeth newydd-anedig," meddai.

Cafodd Michelle Jones, 36, o Aberdaugleddau, ddiagnosis o ddiabetes math 1 pan roedd hi'n 19 oed.

Mae hi'n feichiog ac wedi elwa o'r driniaeth pancreas artiffisial.

"Pan oeddwn i yn fy 20au, cefais fy rhybuddio am fy lefelau siwgr yn y gwaed ac y byddai'n rhaid iddynt fod dan reolaeth yn ystod beichiogrwydd, oherwydd mae risg i chi a'r babi.

"Fy mhrif bryder oedd am y babi - pethau fel colli babi a genedigaethau marw neu gallwch chi gael namau geni," meddai.

Michelle Jones Ffynhonnell y llun, Michelle Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michelle Jones ddiagnosis o ddiabetes math 1 pan oedd hi'n 19 oed

Pan ddywedodd Michelle wrth y tîm diabetes ei bod hi eisiau ceisio cael babi, roedd hi'n defnyddio pen chwistrelliad inswlin.

"Roedd y tîm yn monitro y lefelau siwgr yn fy ngwaed i sicrhau eu bod nhw yn y lle gorau y gallen nhw fod.

"Ond allwn i ddim cael y canlyniadau yr oeddwn eu hangen gyda'r chwistrelliadau hyn, felly fe wnaethon nhw fy rhoi ar y pwmp wedyn."

"Roedd yn brawf, ond gwellodd fy lefelau'n sylweddol," meddai.

"Weithiau, os nad yw lefelau eich siwgr gwaed o fewn yr ystod, mae'n rhoi'r hyder hwnnw i chi, rywfaint o sicrwydd, y bydd yn eich helpu i gywiro'ch lefelau."

"Mae wedi rhoi rheolaeth dynnach i mi dros fy lefelau glwcos," ychwanegodd.

Gall tîm diabetes Hywel Dda fonitro lefelau Michelle o bell, sy'n golygu nad oes rhaid iddi deithio i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar gyfer pob apwyntiad a gall gael apwyntiad dros y ffôn.

Mae hefyd ar gael i unrhyw unigolyn â diabetes math 1 sy'n cynllunio beichiogrwydd.

Fe gafodd y dechnoleg ei chyflwyno yn genedlaethol ym mis Hydref 2024.

Y nod yw cynnig y dechnoleg hon i bob menyw feichiog sy'n byw â diabetes math 1 erbyn mis Mawrth 2027.

Pynciau cysylltiedig