'Tsunami' diabetes gydag un o bob pump wedi cael diagnosis

Briall Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mae Briall Gwilym yn byw efo diabetes math 1 ers 18 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod un o bob pum person yn byw â diabetes neu gyflwr cyn-diabetes (prediabetes) yng Nghymru.

Dywedodd un meddyg sy'n trin llygaid bod diabetes math 2 "wedi mynd lan fel tsunami" o ganlyniad i ffordd pobl o fyw.

Mae'r sefyllfa hefyd wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng iechyd cudd", gydag elusen yn dweud bod y ffigyrau'n "hanfodol" er mwyn sicrhau ymyrraeth ar frys i'r system.

Mewn llythyr agored i'r Ysgrifennydd Iechyd mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod targedau i atal diabetes math 2 a gofal diabetes wrth galon eu cynlluniau hir dymor.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn buddsoddi arian i geisio gwella'r sefyllfa.

Mae ffigyrau newydd Diabetes UK yn dangos fod 226,575 o bobl yng Nghymru â diagnosis o diabetes ar hyn o bryd - 212,108 oedd ffigwr y llynedd.

Mae nifer y bobl sydd â diabetes yn y DU yr uchaf ar gofnod, yn ôl y data.

Mae'r ffigyrau hefyd yn nodi bod 269,747 o bobl yng Nghymru yn byw hefo cyflwr cyn-diabetes - pan fo lefel y glwcos yn uchel yn y gwaed ond ddim yn ddigon uchel i gael diagnosis o diabetes math 2.

Mae'r elusen yn dweud nad ydy llawer o bobl yn ymwybodol bod ganddyn nhw gyflwr cyn-diabetes.

'Perygl i fwy fynd yn ddall'

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, sy'n trin problemau gyda'r llygaid, bod angen i bobl newid eu ffordd o fyw, a bod diabetes math 2 "wedi mynd lan fel tsunami".

Dywedodd bod "ishe edrych ar y broblem neu bydd mwy o bobl yn mynd yn ddall yng Nghymru".

"Mae'n clinics ni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf yn ofnadwy ac mae'n costio lot fawr i drin pobl gyda diabetes sydd â phroblemau gyda'u llygaid."

Dr Gwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Gwyn Williams yn dweud bod angen i bobl fwyta bwyd iach a gwneud ymarfer corff

Ychwanegodd: "Mae fwy a fwy o bobl yng Nghymru yn ordew erbyn hyn - mae un person o bob tri yn pwyso lot fwy na ddylen nhw.

"Dyw pobl ddim yn byw yn heini. Mae bwyd iachus yn costio eitha lot fwy na bwyd junk ac ar ben 'ny hefyd... ni ddim yn chwarae chwaraeon fel o'n i o'r blaen, ni lot fwy glued i'n ffonau a'n cyfrifiadur, dydyn ni ddim yn mynd mas a mae hynny'n wael.

"Mae ishe bwyta'n iachus, hybu chwaraeon a mynd tu fas. Mae'n costio lot i fynd i'r gym ond os bydde rhyw fath o help gyda hynny, dwi'n siwr bydde mwy o bobl yn defnyddio'r adnoddau hyn."

Briall Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Briall Gwilym nad ydy llawer yn ymwybodol o'r cymhlethdodau sy'n dod hefo diabetes

Dywedodd Briall Gwilym, sydd wedi byw hefo diabetes math 1 ers 18 mlynedd: "Does yr un diwrnod yn mynd heibio lle dwi ddim yn meddwl am diabetes.

"Mae o'n glefyd lle da chi'n gorfod bod on it drwy'r adeg... dwi'n pwyso fy mwyd i gyd bellach ac yn cyfrifo faint o garbohydradau sydd yn bob dim dwi'n fwyta er mwyn neud yn siŵr bo fi'n gallu rhoi'r insiwlin cywir i gyfateb i hynny."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod "bellach ar yr insulin pump sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i'm mywyd i.

"Ma' di cymryd lot o'r pwysau a'r straen meddyliol o gael y clefyd a mae'r rheolaeth lot gwell o achos hynny."

Cymhlethdodau pellach

Roedd o'r farn fod 'na "ddiffyg ymwybyddiaeth" am y clefyd.

"Tan ma' rhywun yn cael y diagnosis ac yn byw efo fo, dwi ddim yn meddwl bod neb cweit yn dallt faint o waith caled ydi o a faint mae'n newid bywyd rhywun.

"Mae'r cyhoedd angen sylwi pa mor gymhleth ydi diabetes... mae'n cynyddu risg pobl o lawer o bethau.

"Mae straen amser y mis, ymarfer corff, infection yn gallu effeithio rheolaeth lefel y siwgr ond hefyd mae'n cynyddu'r risg o gael trawiad ar y galon, strôc, kidney failure - maen nhw'n betha' difrifol a mae angen i'r cyhoedd ddallt bod 'na gymhlethdodau pellach ohono fo."

profi glwcosFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau Diabetes UK yn dangos fod 226,575 o bobl yng Nghymru â diabetes ar hyn o bryd

Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK ar gyfer Cymru fod y ffigyrau yn "tanlinellu'r argyfwng iechyd cudd sy'n wynebu Cymru ac yn dangos pam fod angen i'r llywodraeth weithredu nawr".

"Mae angen gwell gofal ar gyfer y cannoedd ar filoedd o bobl sy'n byw â phob math o diabetes, i'w cefnogi i fyw yn well a lleihau'r siawns iddyn nhw ddatblygu cymhlethdodau."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "hanfodol" fod "llawer mwy yn cael ei wneud ar gyfer y bobl sydd â math 2 o diabetes neu prediabetes a ddim yn gwybod".

"Gorau po gyntaf y gallwn eu ffeindio a'u trin, y mwyaf o niwed gallwn ei atal."

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hynod ofidus am y lefel cynyddol o diabetes a prediabetes yng Nghymru.

"Rydym yn disgwyl i'r GIG ddarparu gofal yn unol â safonau clinigol ac rydym wedi gosod ein disgwyliadau ar fyrddau iechyd i'w harwain wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

"Yn wahanol i diabetes math 1, mae modd atal diabetes math 2 ac rydym wedi buddsoddi £1m y flwyddyn i gefnogi ein cynllun atal [diabetes] fel rhan o'n strategaeth gordewdra deng mlynedd."

Pynciau cysylltiedig