Elusen sy'n 'achubiaeth' i famau a'u babanod i ddod i ben

Mae Melanie Francis yn dweud bod yr elusen "yn helpu iechyd meddwl mamau" a'u cael nhw "allan o'r cartref"
- Cyhoeddwyd
Mae elusen mam a'i phlentyn sydd wedi bod yn "achubiaeth" i 700 o deuluoedd yn Sir Ddinbych yn dweud eu bod nhw'n dod i ben am resymau ariannol.
Mae gan Blossom and Bloom ganolfan yn Y Rhyl sy'n rhoi cyfle i famau gymdeithasu a chael hyfforddiant, ac yn cynnig llety a chymorth i famau a phlant digartref.
Yn ôl Vicky Welsman-Millard, a sefydlodd yr elusen yn 2020, mae hi wedi gwneud y penderfyniad "torcalonnus" i gau fis nesaf ar ôl i'r awdurdod lleol ddweud na fyddan nhw'n cael arian o gronfa Llywodraeth y DU - y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod nhw'n gorfod torri'n ôl ar faint o arian maen nhw'n rhoi i brosiectau yn y sir yn sgil "gostyngiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael".

Sarah Jones-Wallace a Macsen o Ddinbych
Mae Sarah Jones-Wallace, 27 o Ddinbych, wedi bod yn dod i'r ganolfan gyda'i mab, Macsen, ers iddo fod yn saith wythnos oed ac yn dweud nad ydi hi'n gwybod "os fydden i dal yma" oni bai am yr elusen.
Dywedodd ei bod hi'n "gweld pethau'n anodd ac yn teimlo'n unig" pan ddaeth hi o hyd i'r elusen ac mai "dyna'r peth gorau ddigwyddodd" iddi.
"Does dim byd arall tebyg fel hyn yma - dwi'n casau meddwl am fam mewn sefyllfa debyg i fel o'n i, heb gael rhywle fel hyn i fynd iddo... dwi ddim yn siwr os fydden i yma os na fyswn i wedi dod o hyd i le saff i fynd iddo lle'r oedd mamau eraill yn fodlon dweud eu bod nhw'n teimlo'r un fath a gyda staff i'n cefnogi ni."
"Allai ddim dweud ddigon pa mor hanfodol ydi'r elusen i'r gymuned yn fama ac yn ehangach. Dwi'n dod o Ddinbych, mae pobl yn teithio i ddod o hyd i lefydd fel hyn achos does dim llefydd eraill ar gael o fewn cyrraedd i ni."
"Ar ôl dod i Blossom and Bloom blwyddyn yn ôl, roedd yr elusen yn helpu fi drwy fyd llethol newydd a helpu fi teimlo fel fi eto."

Dywedodd Eloise Garland fod Blossom and Bloom wedi gwneud "gymaint o wahaniaeth" i fywydau mamau a'u babanod
Dywedodd un ddynes aeth at yr elusen yn 2023 - a hithau'n ddigartref gyda babi a phlentyn ifanc - eu bod nhw "yn llythrennol wedi fy achub i".
Yn ôl Eloise Garland, 30 sy'n byw yn Llandudno, fe wnaeth Blossom and Bloom ei chefnogi hi "mewn gymaint o ffyrdd gwahanol" gan ei helpu hi i ofalu am ei phlant a dod o hyd i lety iddyn nhw.
"Maen nhw'n gwneud gymaint o wahaniaeth... ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau eraill," meddai, gan ddweud y byddai cau'r ganolfan yn "dorcalonnus".

Mae 500 o deuluoedd yn Sir Ddinbych wedi cofrestru i gael cefnogaeth gan elusen Blossom and Bloom
Mae Melanie Francis yn dweud ei bod yn mwynhau dod i sesiynau Blossom and Bloom gyda'i mab Osian, sy'n wyth mis, gan fod yr awyrgylch "yn really cynnes a really cyfeillgar".
Er ei bod hi'n mynd i grwpiau eraill yn ardal, dyma'r unig un sydd ar gael yn Gymraeg.
"Hwn 'di un o'r llefydd mwyaf positif yn Rhyl a dyna be 'da'n ni angen," meddai.
"Mae o'n siwtio pobl o gwahanol sefyllfaoedd ac oedran - mae rhai'n wynebu digartrefedd neu dwi wedi sefydlu busnes, felly o'n i'n gorfod mynd i gweithio ar ôl pythefnos felly oedd o'n sialens bod yn fam newydd a gweithio. O'dd Blossom and Bloom yn cael fi allan o'r cartref."
Dywedodd ei bod hi wedi ei "siomi" bod yr elusen yn cau.
"Dwi'n deall bod y cyngor yn gorfod chwilio am llefydd i safio arian yn enwedig gan fod costau byw a phopeth wedi cynyddu ond dwi'n meddwl bod pobl sy'n penderfynu pethau, maen nhw angen dod fewn a siarad efo ni am sut da ni'n benefitio o hyn a bysan nhw'n gweld yr effaith positif ar y mamau a'r babis a sut mae'n helpu'n iechyd meddwl ni."

Mae Vicky Welsman-Millard (chwith) yn dweud ei bod hi eisiau cynnig "dyddiau gwell" i famau a'u plant
Penderfynodd Vicky Welsman-Millard sefydlu'r elusen bum mlynedd yn ôl, gan ddweud bod "galw mawr" am gefnogaeth o'r fath, ar ôl iddi hi gynnig llety i famau digartref yn Y Rhyl, ac wrth i nifer o famau eraill ofyn am gymorth.
Dywedodd bod elusen yn cynnig lle i unrhyw fam ddod gyda'i babi neu ei phlentyn ifanc am gefnogaeth ymarferol a sgwrs.
Ond mae bellach yn dweud bod heriau ariannol yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau ddiwedd mis Mai.
Ers tair blynedd, mae'n dweud bod yr elusen wedi dibynnu ar gyllid Ffyniant Bro o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
'Mae fel ail gartref i deuluoedd'
Dywedodd Ms Welsman-Millard: "Gan ein bod ni'n elusen eithaf newydd, does ganddon ni ddim arian wrth gefn.
"Rydyn ni'n cael arian o ffynonellau eraill hefyd, ond dyw hynny ddim yn ddigon i ariannu'r prif wasanaethau canolog."
Yn ôl Ms Welsman-Millard mae'n costio tua £100,000 y flwyddyn i gadw'r safle yn agored a thalu staff.
"O gofio faint o deuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi, dydi hynny ddim yn llawer o arian i feddwl yr effaith rydyn ni'n gael ar fywydau pobl," meddai.
Ychwanegodd: "Mae Blossom and Bloom fel ail gartref i deuluoedd, maen nhw'n gwybod allan nhw adael y tŷ a dod yma."
Mae'n poeni y bydd dod â'r gefnogaeth i ben yn cael "effaith niweidiol ar iechyd meddwl rhieni".

Dywedodd Nia Gwynfor, sy'n gweithio gyda mamau ifanc sydd wedi bod yn y system ofal, bod canolfannau fel Blossom and Bloom yn "achubiaeth" i nifer
Elusen arall sy'n gweithio gyda mamau ifanc ydi Prosiect Undod sy'n cefnogi mamau ifanc a mamau beichiog hyd at 25 oed sydd wedi bod yn y system ofal.
Dywedodd rheolwraig Prosiect Undod, Nia Gwynfor ei bod hi wedi bod yn gweithio gyda phobl drwy Gymru gyfan a'i bod hi'n nabod merched yn Y Rhyl sy'n defnyddio canolfan Blossom and Bloom yn ddyddiol.
Dywedodd y gallai sgil effeithiau cau Blossom and Bloom fod yn "enfawr".
"Os 'da'n ni isio i'n cenhedlaeth nesa' ni ffynnu, ac os ydan ni isio iddyn nhw fyw yn annibynnol a thorri costau yn yr hir dymor, mae'n rhaid i ni roi arian i fewn i wasanaethau fel Blossom and Bloom achos be' mae o'n sicrhau bo' nhw'n gallu piciad fewn i ganolfan yn y gymuned i gael cymorth ymarferol neu emosiynol.
Dywedodd bod y gwasanaeth yn "sicr yn achubiaeth i lot o'r mamau 'da ni 'di bod yn gweithio efo... falle bod nhw'n byw mewn hotel a does ganddyn nhw ddim gardd, dim cegin, dim ond un stafell felly mae rhywle fel Blossom and Bloom yn achubiaeth iddyn nhw".
"Mae'r Rhyl yn ardal ddifreintiedig ac mae Blossom and Bloom yn fwy na canolfan... mae o'n deulu, mae o'n gefnogaeth."
'Terfyn amser ar yr arian oedd ar gael'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych "bod natur y cyllid oedd ar gael drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn golygu bod terfyn amser" ar yr arian i Blossom and Bloom.
Ychwanegodd llefarydd y bydd sefydliadau trydydd sector yn Sir Ddinbych yn gallu gwneud cais am arian o "gronfeydd eraill".
"Rydyn ni'n cydnabod bod rhedeg elusen neu grŵp cymunedol y dyddiau yma yn heriol iawn, ac mae'r cyngor yn cydnabod gwaith caled y rhai sy'n gwneud hynny, fel y rhai sy'n gyfrifol am elusennau neu grwpiau cymunedol fel Blossom and Bloom," ychwanegodd.
Mae disgwyl i Blossom and Bloom ddod i ben ddiwedd mis Mai a bydd chwech aelod cyflogedig o staff a chwe gwirfoddolwr yn colli eu swyddi.