Merch 17 oed ag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ym Mangor

Ffordd Treborth, BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar Ffordd Treborth, Bangor

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr 17 oed yn cael triniaeth am anafiadau difrifol, a gyrrwr arall wedi cael ei arestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar gyrion Bangor nos Fawrth.

Mae sawl teithiwr arall wedi cael anafiadau difrifol ac yn cael triniaeth feddygol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487, Ffordd Treborth tua 20:30 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car VW Golf gwyn a Vauxhall Corsa du.

Cafodd gyrrwr y Corsa - merch 17 oed - ei chludo i Ysbyty Gwynedd, ac yna ei throsglwyddo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.

Mae gyrrwr y VW Golf - dyn 57 oed - wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, ac o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd â man anafiadau.

Map o'r ardal

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad.

Dywedodd Sarjant Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol:

"Rwy'n annog unrhyw un allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad a sydd ddim eto wedi siarad â ni i gysylltu.

"Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau dashcam yn dangos sut roedd y car VW Golf yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni mor fuan a phosib."

Pynciau cysylltiedig