Pedwar yn eu harddegau wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio

Heol Nash CasnewyddFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl yn eu harddegau wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yng Nghasnewydd.

Dywedodd Heddlu Gwent bod pedwar bachgen wedi eu cyhuddo yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar Heol Nash, Casnewydd ar 7 Tachwedd.

Dywedodd y llu bod dau fachgen 16 oed a dau fachgen 17 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio.

Mae'r pedwar wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd, a phob un wedi eu cadw yn y ddalfa.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth, cyn cael ei ryddhau yn ddiweddarach.

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig