'Hel' ymgyrchwyr iaith o'r Senedd am ddillad â slogan

Y tri aelod o Gymdeithas yr Iaith yn gwisgo'r crysau-T y tu allan i'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri ymgyrchydd iaith eu "hel o'r oriel gyhoeddus" yn y Senedd ddydd Mawrth yn ystod y drafodaeth fanwl olaf ar Fil y Gymraeg ac Addysg, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Roedd y tri yn gwisgo crysau-T gyda'r geiriau "Targed yn y Deddf" (sic) er mwyn galw ar ASau i basio gwelliant fyddai wedi cynnwys targed yn y Bil i o leiaf 50% o ddisgyblion fynychu ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg" erbyn 2050.
Nid oedd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - am wneud sylw.
Ond cyfeiriodd y llefarydd at god ymddygiad ymwelwyr y Senedd sy'n nodi "rhaid i ddillad â slogan neu logo sy'n ymwneud â phrotest benodol beidio â chael eu gwisgo y tu mewn i adeiladau'r Senedd".
Dywedodd Bethan Williams ar ran y gymdeithas wrth y BBC mai "camgymeriad" oedd y gwall iaith ar y crysau - "y ddeddf" sy'n gywir - ond "y weithred oedd yn bwysig".
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
Dywedodd Bethan Williams: "Aeth y tri i mewn i'r oriel gyhoeddus yn gwisgo siwmperi dros y crysau-T, ac fe dynnon nhw'r siwmperi pan drafodwyd y gwelliant oedd yn galw am gynnwys targed yn y Bil o ran faint o blant fydd yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050, er mwyn i'r Aelodau o'r Senedd weld y neges."
"Dywedodd y swyddogion diogelwch bod rhaid iddyn nhw adael oherwydd hynny."
Fe wnaeth y ddeddf arfaethedig sy'n "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol" basio'r cam olaf ond un yn y Senedd ddydd Mawrth.
Uchelgais strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y grwpiau blwyddyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.
Roedd AS Plaid Cymru, Cefin Campbell, wedi ceisio cynyddu'r targed a'i osod yn y Bil trwy gyflwyno gwelliannau, gan gynnwys ceisio ychwanegu:
"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 50% o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru yn mynychu ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg" erbyn 31 Rhagfyr 2050."
"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cynnydd bob degawd, o 10% o leiaf o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru, yn nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion categori "Prif Iaith - Cymraeg".
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ASau i gefnogi'r gwelliant i gael targed o 50% yn y Bil, ond pleidleisiodd 39 aelod yn erbyn a 12 o blaid.
Dywedodd un o'r tri, Siôn Dafydd sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bod "ein llywodraeth ymhell y tu ôl i ddyheadau pobl Cymru o ran addysg Gymraeg, ac rydyn ni'n teimlo bod y Bil yma wedi colli cyfle mawr i drawsnewid ein system addysg a rhoi'r Gymraeg i bob plentyn".
Ychwanegodd mai "mudiad protest yw Cymdeithas yr Iaith yn ei hanfod, sy'n barod i weithredu'n ddi-drais pan fydd angen, a gweithredu'n weladwy oedd yr unig beth y gallen ni ei wneud yn y Senedd".
Roedd y gymdeithas wedi cynnal rali y tu allan i'r Senedd ym mis Chwefror yn galw am gryfhau'r bil.