'Diffyg manylion' am gynlluniau addysg Gymraeg y llywodraeth

Ystafell ddosbarth gyda rhesi o ddisgyblion ac athro yn sefyll ar flaen y dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae undebau athrawon a phwyllgor Senedd Cymru yn dweud bod diffyg manylion mewn cynlluniau i gynyddu faint o Gymraeg sy'n cael ei haddysgu mewn ysgolion.

Mae gweinidogion am i bob plentyn 16 oed adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.

Dywed yr undebau y byddai angen buddsoddiad sylweddol i gyflawni hyn pan fod problem barhaus gyda staffio yn barod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am rannu mwy o fanylion am eu cynlluniau pan fydd y Bil yn dychwelyd i'r Senedd yr wythnos hon.

Yn Ysgol Olchfa yn Abertawe, dim ond y gwersi Cymraeg sy'n cael eu rhoi drwy gyfrwng yr iaith.

Ond mae gweinidogion nawr am i bob plentyn adael yr ysgol, nid gyda gwybodaeth sylfaenol o'r iaith yn unig, ond y gallu i'w siarad yn hyderus.

Byddai hyn yn ei dro yn helpu i gyfrannu at gael miliwn o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fel yr Olchfa, byddai hynny'n golygu cynyddu cyfran yr amser sy'n cael ei dreulio yn astudio'r Gymraeg i 10% o'r amserlen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau'r llywodraeth yn mynd i greu problemau recriwtio, meddai Julian Kennedy, pennaeth Ysgol Olchfa yn Abertawe

Mae'r pennaeth, Julian Kennedy, yn cefnogi'r egwyddor, ond yn dweud y byddai cyrraedd 10% yn anodd.

"Mewn ysgol yn y sector Saesneg fe fydd hynny'n achosi problemau sylweddol," meddai.

"Mae'n gymharol gyraeddadwy yng Nghyfnod Allweddol 4, lle byddai TGAU fel arfer tua 10% o gwricwlwm disgybl dros bythefnos. Ond yng Nghyfnod Allweddol 3, byddai fel arfer yn is.

"Mae hynny'n creu problemau i ni o ran recriwtio, er ein bo' ni am gynyddu faint o Gymraeg sy'n cael ei darparu.

"Hefyd, mae problem dadleoli. Os ydym yn cyflwyno mwy o un pwnc, yna mae'n rhaid i rywbeth arall fod ar ei golled."

Mae hefyd yn dweud nad yw lefel y Gymraeg a ddisgwylir gan weinidogion yn gymesur â'r hyn sy'n cael ei ddysgu ar hyn o bryd.

"Mae pob un o'n pobl ifanc sy'n gadael yn 16 wedi cwblhau Cymraeg hyd at safon TGAU, ond nid dyna'r lefel rhuglder y mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdani."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw'r ysgrifennydd cabinet sy'n gyfrifol am lywio'r Bil trwy'r Senedd

Mae'r Pwyllgor Addysg trawsbleidiol yn Senedd Cymru wedi bod yn craffu ar gynlluniau'r llywodraeth.

Er eu bod yn hapus i'r llywodraeth fwrw 'mlaen â'r broses, maen nhw am weld llawer mwy o fanylion, megis cynllun gweithlu gyda thargedau ar gyfer recriwtio a chadw athrawon.

Mae 'na alw hefyd am eglurhad o sut y byddai addysgu Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio i gyrraedd targedau, a pha weithgareddau ysgol fyddai'n cyfrif tuag at isafswm o 10% o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cwestiwn o hyd ynghylch sut yn union fydd y polisi newydd yn gweithio mewn ysgolion, medd Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol NAHT Cymru

Mae prif undeb y penaethiaid, yr NAHT, hefyd yn cefnogi'r cynlluniau ond yn cwestiynu sut y bydden nhw'n gweithio.

Dywedodd eu Hysgrifennydd Cenedlaethol, Laura Doel: "Rydym yn deall o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chydweithwyr eraill y byddent yn ceisio darparu o leiaf 10% o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Nawr mae hynny'n swnio fel rhif cyraeddadwy ar bapur, ond byddai'n dibynnu, wrth gwrs, ar gyd-destun yr ysgol.

"Mae'n bosibl iawn bod gennych rai ysgolion cyfrwng Saesneg lle mae gennych athrawon sy'n rhugl yn y Gymraeg, neu efallai bod gennych chi rai sydd ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, heblaw Cymraeg sgyrsiol.

"Yna chi'n dechrau mynd i mewn i fanylion yr hyn sy'n cael ei ystyried fel cyflwyno gwers trwy gyfrwng y Gymraeg? Ai trwy'r Gymraeg yn gyfan gwbl? Ai cymysgedd? A fyddai pethau fel gwersi Cymraeg yn cyfrif?"

'Wedi bod yn siarad am hyn ers degawd'

Er bod addysg cyfrwng Cymraeg wedi bodoli ers degawdau, mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai ehangu'r arlwy yn y pen draw yn helpu ysgolion i ddod o hyd i'r athrawon Cymraeg ychwanegol y bydd angen arnynt yn y dyfodol.

Dywed Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, y dylai'r cynllun fod wedi ei roi yn ei le flynyddoedd yn ôl.

"Rydyn ni wedi bod yn siarad am hyn ers 10 mlynedd a mwy. Bydden ni hanner ffordd yno pe bai gynnon ni ryw fath o strategaeth," meddai.

"Mae'n rhaid i'r targed ar gyfer cynyddu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg fod ar flaen y bil.

"Os ydym o ddifri ynglŷn â bod yn wlad ddwyieithog, os ydyn ni o ddifrif ynghylch miliwn o siaradwyr, yna mae'n rhaid i ni roi'r adnoddau mewn strategaethau er mwyn i ni allu cyflawni hyn."

'Rhoi cyfle teg i holl blant Cymru'

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nod Bil y Gymraeg ac Addysg, erbyn 2050, yw rhoi cyfle teg i holl blant Cymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol.

"Mae'r nod hwn waeth beth fo'u cefndir a pha bynnag gategori iaith y maent yn ei mynychu fel ysgol. Bydd yn cymryd amser i weithredu'r Bil yn llawn ac rydym wedi amlinellu i'r Senedd ein hamserlen bresennol sy'n dangos sut y bydd elfennau allweddol o'r Bil yn cael eu rhoi ar waith hyd at 2036.

"Mae cael gweithlu addysg digonol yn allweddol i weithrediad Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i ddatblygu ein dealltwriaeth o effeithiau pwysau gwaith ar athrawon."

Mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ymateb i argymhellion y Pwyllgor yn ystod dadl yn y Senedd ddydd Mawrth.