Galw am gryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg

Mae Mabli yn dweud bod angen rhoi strategaeth at ei gilydd fel bod pob athro yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Daeth sawl un ynghyd mewn rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i alw ar y Llywodraeth i gryfhau bil y Gymraeg ac Addysg.
Mae Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg yn dadlau nad yw'r bil, yn ei ffurf bresennol yn mynd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.
Wrth siarad tu allan i'r Senedd dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith bod y bil yma "yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i roi strategaeth at ei gilydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nod y bil yw "rhoi cyfle teg i bob plentyn ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol orfodol".

Daeth ymgyrchwyr ynghyd tu allan i'r Senedd ddydd Sadwrn
Cafodd y Bil ei gyflwyno Haf y llynedd ac mae'r senedd yn ei thrafod ar hyn o bryd.
Mae un o bwyllgorau'r Senedd yn ystyried cyfres o welliannau i'r Bil gan gynnwys gosod targedau statudol ar gyfer cynyddu'r ganran o blant mewn addysg Gymraeg.
Targed strategaeth Cymraeg 2050 ydy i 40% o ddisgyblion derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.
Ond ar hyn o bryd y ffigwr ydy 23% - 1% yn unig o gynnydd ers 201
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd ystyried sicrhau cyllid digonol i uwchraddio sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg a chynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy'n dysgu drwy'r Saesneg ar hyn o bryd.
Un oedd yn bresennol yn y rali Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn ôl Mabli mae'r bil yn "cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i Lywodraeth Cymru roi strategaeth at ei gilydd.
"Targedau fyddai'n sicrhau bod pob darpar athro yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

Dywed Ceri Evans bod angen mwy o atrhawon cyfrwng Cymraeg
Mae Ceri Evans, Llywydd UCAC yn poeni am nifer y darpar athrawon cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
Dywedodd bod angen i Lywodraeth Cymru "ffeindio'r arian o rywle - heb yr arian 'na does dim digon o athrawon cyfrwng Cymraeg i allu cynnig y pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Os dy' nhw ddim yma wedyn ma'r gobaith o gal y miliwn o siaradwyr byth yn mynd i gael ei wireddu," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod Bil y Gymraeg ac Addysg yw rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol orfodol, erbyn 2025, beth bynnag fo'u cefndir a chategori iaith yr ysgol maent yn mynychu.
"Mae'r bil hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd o gynyddu canran y bobl ifanc sy'n dechrau addysg cyfrwng Cymraeg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Ionawr